Migwrn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ychwanegu dolen i Wiciadur using AWB |
Wiciadur using AWB |
||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
{{Wiciadur|{{PAGENAME}}}} |
{{Wiciadur|{{lc:{{PAGENAME}}}}}} |
||
[[Categori:Anatomeg]] |
[[Categori:Anatomeg]] |
Fersiwn yn ôl 00:38, 3 Chwefror 2013
Mewn Anatomeg ddynol, y migwrn ydy'r cymal hwnnw sydd rhwng gwaelod y goes a'r droed; ('ankle' yn Saesneg). Yr un tarddiad sydd i ddiwedd y gair migwrn a'r hen air Celtaidd 'asgwrn'. Ar lafar gwlad, fodd bynnag, mae'r gair migwrn yn cyfeirio nid yn unig at y rhan fewnol ondat yr ardal hwnnw'n gyffredinol.
Dyma ble mae esgyrn y tibia a'r ffibiwla yn y goes yn cysylltu â'r talws yn y droed. I fyny ac i lawr yn unig mae'r cymal yma'n caniatau ei symud; fe'i defnyddir pan rydym yn cerdded a phan rydym yn sefyll ar flaenau ein traed.
Ceir gewynnau deltoid yn y migwrn ynghyd a thri gewyn taloffibiwlar.
Oherwydd fod holl bwysau'r corff yn cael ei grynhoi mewn dau le bach, ceir llawer o broblemau, yn enwedig mewn chwaraeon; yr hyn a ddywedir, fel arfer, yw bod rhywun wedi 'troi ei droed'.