Cyfreithiwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ychwanegu dolen i Wiciadur using AWB |
Wiciadur using AWB |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
{{Wiciadur|{{PAGENAME}}}} |
{{Wiciadur|{{lc:{{PAGENAME}}}}}} |
||
[[Categori:Cyfraith]] |
[[Categori:Cyfraith]] |
Fersiwn yn ôl 23:47, 2 Chwefror 2013
Yn ôl Black's Law Dictionary, mae cyfreithiwr yn berson a addysgwyd ym myd y gyfraith. Gall fod yn dwrne, yn gwnsler, yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr. Mae cyfraith yn system o reolau ymddygiadol a sefydlir gan lywodraeth uchaf cymdeithas er mwyn sicrhau tegwch a rheolaeth gwlad, er mwyn cynnal sefydlogrwydd ac i wireddu cyfiawnder. Mae gweithio fel cyfreithiwr yn golygu addasu theorïau a gwybodaeth gyfreithiol abstract mewn modd ymarferol er mwyn datrys problemau unigolyddol penodol, neu er mwyn hybu buddiannau'r bobl hynny sy'n llogi cyfreithwyr i weithredu gwasanaethau cyfreithiol.
Mae swyddogaethau cyfreithwyr yn amrywio'n sylweddol ar hyd yr awdurdodaethau cyfreithiol, ac felly dim ond yn y modd mwyaf cyffredinol y gellir ymdrin â'r pwnc yn y fan hon. Ceir mwy o wybodaeth yn yr erthyglau i wledydd penodol isod.