Disgwyliad oes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
RedBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn newid: pt:Esperança de vida |
Chobot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.5) (robot yn ychwanegu: ko:평균 수명 |
||
Llinell 34: | Llinell 34: | ||
[[ja:平均余命]] |
[[ja:平均余命]] |
||
[[km:អាយុសង្ឃឹម]] |
[[km:អាយុសង្ឃឹម]] |
||
[[ko:평균 수명]] |
|||
[[lt:Vidutinė gyvenimo trukmė]] |
[[lt:Vidutinė gyvenimo trukmė]] |
||
[[lv:Dzīves ilgums]] |
[[lv:Dzīves ilgums]] |
Fersiwn yn ôl 05:29, 2 Gorffennaf 2012
Mewn demograffeg, disgwyliad bywyd yw'r nifer o flynyddoedd ychwanegol y gall unigolyn mewn grŵp arbennig, e.e. yn ôl oedran a rhyw, ddisgwyl byw, o ran tebygolrwydd ystadegol.
Dibynna'r ffigwr am ddisgwyliad bywyd ar y modd y dewisir y grŵp i'w fesur. Mewn rhai gwledydd tlawd, mae cyfran marwolaethau ymysg babanod yn uchel iawn, ac mae hyn yn gostwng y disgwyliad bywyd i'r holl boblogaeth yn sylweddol. Oherwydd hyn, weithiau defnyddir ffigwr gwahanol, er enghraifft disgwyliad bywyd y bobologaeth dros ddeg oed.
Yn ystod y canrifoedd diwethaf, mae disgwyliad bywyd wedi cynyddu'n sylweddol, i raddau helaeth oherwydd gwelliannau mewn iechyd cyhoeddus a thriniaeth feddygol. Gwelwyd yr effeithiau hyn fwyaf yn y gwledydd cyfoethocaf. Yn yr Unol Daleithiau yn 1901 roedd disgwyliad bywyd yn 49, ond erbyn diwedd y ganrif roedd yn 77, gwelliant o fwy na 50%. Yn India a Gweriniaeth Pobl Tsieina, roedd disgwyliad bywyd tua 40 yng nghanol yr 20fed ganrif, ond tua 63 erbyn diwedd y ganrif.
Bu rhai eithriadau i'r cynnydd yma, yn arbennig yn y gwlwedydd yn rhan deheuol Affrica a effeithiwyd fwyaf gan AIDS. Yn Rwsia ac eraill o gyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd, gwelwyd gostyngiad mewn disgwyliad bywyd wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd.