Benjamin Netanyahu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: lv:Benjamins Netanjahu
B commons
Llinell 12: Llinell 12:
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
{{commons|Category:Benyamin Netanyahu}}



{{DEFAULTSORT:Netanyahu, Benjamin}}
{{DEFAULTSORT:Netanyahu, Benjamin}}

Fersiwn yn ôl 12:41, 4 Mawrth 2012

Benjamin Netanyahu

Benjamin "Bibi" Netanyahu, hefyd Binyamin Netanyahu (ganed 21 Hydref 1949) yw nawfed Prif Weinidog Israel. Cafodd ei wneud yn Brif Weinidog ym Mawrth 2009. Mae hefyd yn Gadeirydd y Blaid Likud ac yn aelod o'r Knesset; ef hefyd ydy Gweinidog dros Iechyd ei wlad, Gweinidog Pensiynnau a Gweinidog dros Strategaeth Economaidd Israel.

Ef ydy'r Prif Weinidog cyntaf i gael ei eni ar ôl creu Israel yn wladwriaeth sofran. Ymunodd â llu arfog Israel yn 1967 gan wasanaethu fel 'commander' yn yr uned gomando a elwir yn Sayeret Matkal gan gymryd rhan mewn sawl ymgyrch milwrol gan gynnwys achub gwystlon y 'Sabena Flight 572' yn 1972. Ymladdodd yn Rhyfel Yom Kippur yn 1973 a chael ei wneud yn gapten a gadael y fydin.

Cynrychiolodd Israel ar y Cenhedloedd Unedig o 1984 hyd at 1988, ac fe'i gwnaed yn Brif Weinidog rhwng 1996 a 1999. Cafodd ei wneud yn Ysgrifennydd Tramor rhwng 2002 a 2003, yn Ysgrifennydd Materion Ariannol yn Awst 2005 yn Llywodraeth Ariel Sharon gan adael ar ôl anghytuno ynghylch Llain Gaza.

Ailafaelodd yn awennau ei blaid ar 20 Rhagfyr 2005 gan eu harwain fel gwrth-blaid. Yn etholiadau 2009 ail oedd Likud ond ffurfiwyd llywodraeth clymblaid.[1]

Mae'n frawd i Yonatan Netanyahu, sy'n gomander ym myddin Israel ac a fu farw wrth geisio achub gwystlon yn 'Operation Entebbe'. Ei frawd arall yw Iddo Netanyahu sy'n llenor.

Cyfeiriadau

  1. Cyhoeddiad Haaretz; 01-04-2009.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: