Kalevala: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: be:Калевала |
MystBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: be-x-old:Калевала |
||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
{{Cyswllt erthygl ddethol|de}} |
{{Cyswllt erthygl ddethol|de}} |
||
⚫ | |||
[[ar:كاليفالا]] |
[[ar:كاليفالا]] |
||
[[be:Калевала]] |
[[be:Калевала]] |
||
[[be-x-old:Калевала]] |
|||
[[bg:Калевала]] |
[[bg:Калевала]] |
||
[[ca:Kalevala]] |
[[ca:Kalevala]] |
||
Llinell 69: | Llinell 68: | ||
[[tr:Kalevala]] |
[[tr:Kalevala]] |
||
[[uk:Калевала]] |
[[uk:Калевала]] |
||
⚫ | |||
[[zh:卡勒瓦拉]] |
[[zh:卡勒瓦拉]] |
Fersiwn yn ôl 22:42, 29 Chwefror 2012
Cerdd hir yn yr iaith Ffinneg ac arwrgerdd genedlaethol y Ffindir yw'r Kalevala. Ei ffurf fwyaf cyfarwydd yw'r fersiwn a luniwyd gan yr ieithydd a hynafiaethydd Elias Lönnrot (1802 - 1884) rhwng 1835 a 1849. Mae'r fersiwn honno'n seiliedig ar waith ymchwil Lönrot yn casglu ceinciau o'r Kalevala oddi ar dafod leferydd yng nghefn-gwlad y Ffindir ac ar ddarnau o'r epig a gyhoeddwyd eisoes o'r 17eg ganrif ymlaen.
Cefndir hanesyddol y Kalevala yw'r berthynas rhwng pobl Kaleva a'u cymdogion y Pohjola (y Lapiaid efallai). Yn ganolog i'r epig y mae'r ymchwil am y Sampo talismanaidd. Dim ond ar ddiwedd y gerdd y ceir cyfeiriadau at Gristnogaeth, na ddaeth yn grefydd swyddogol yn y Ffindir tan y 14eg ganrif.
Mae'r Kalevala yn arwrgerdd hir iawn sy'n ymestyn i 50 canto. Y prif gymeriad yw'r arwr Kalevaidd Väinämöinen sy'n ceisio ennill y forwyn Aino, chwaer yr arwr Pohjolaidd Joukahainen. Ar ôl colli Aino mae Väinämöinen yn ceisio morwyn Pohjolaidd arall ac yn mynd trwy gyfres o anturiaethau rhyfeddol cyn ei hennill. Y tu ôl i hyn mae'n debyg fod y morwynion yn cynrychioli sofraniaeth ar y wlad, thema sydd i'w chael mewn sawl traddodiad llên gwerin.
Cafodd y Kalevala dadenedig ddylanwad mawr ar fywyd diwyllianol y Ffindir. Ymhlith yr artistiaid a ysbrydolwyd gan y gerdd mae'r cyfansoddwr Sibelius a'r darlunydd Akseli Gallen-Kallela yn sefyll allan.
Llyfryddiaeth
Y cyfieithiad Saesneg clasurol yw,
- W.F. Kirby (cyf.), Kalevala (1907: sawl argraffiad ers hynny, ar gael yn y gyfres Everyman's Library)