Annála Connacht: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: es:Anales de Connacht
Llinell 25: Llinell 25:


[[en:Annals of Connacht]]
[[en:Annals of Connacht]]
[[no:Connacht-annalene]]
[[es:Anales de Connacht]]
[[it:Annali del Connacht]]
[[it:Annali del Connacht]]
[[no:Connacht-annalene]]

Fersiwn yn ôl 13:11, 20 Chwefror 2012

Llyfr blwyddnodau am y blynyddoedd 1224 i 1544 yw'r Annála Connacht ("Cronicl/Blwyddnodau Connacht"). Mae'n gasgliad o gofnodion hanes a geir mewn llawysgrif Wyddeleg a ysgrifennwyd yn y 15fed ganrif a'r 16eg ganrif gan o leiaf dri ysgrifwr, i gyd yn aelodau o'r Clan Ó Duibhgeannáin, mae'n debyg.

Mae'r rhannau agoriadol, sy'n cychwyn gyda marw'r Brenin Cathal Crobdearg Ua Conchobair o Connacht, yn arbennig o fanwl ac yn rhoi hanes Connacht yn y 13eg ganrif a hanner cyntaf y ganrif olynol, yn arbennig yn achos hanes y teuluoedd Ó Conchobhair a Burke. Ond mae'r hanes yn llai manwl a mwy mympwyol am yr 16eg ganrif. Er hynny, mae'n ddogfen bwysig iawn sy'n cofnodi llawer o ddigwyddiadau mewn cyfnod a fyddai fel arall yn gymharol dywyll yn hanes talaith Connacht ac Iwerddon yn gyffredinol.

Ymddengys fod Annála Connacht ac Annála Clonmacnoise yn deillio o ffynhonnell gyffredin neu o leiaf yn perthyn i'w gilydd o ran ei hanes testunol.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.