Melin wynt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Escarbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: kk:Жел диірмені
FoxBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.5) (robot yn ychwanegu: ga:Muileann gaoithe
Llinell 44: Llinell 44:
[[fr:Moulin à vent]]
[[fr:Moulin à vent]]
[[fy:Wynmûne]]
[[fy:Wynmûne]]
[[ga:Muileann gaoithe]]
[[he:טחנת רוח]]
[[he:טחנת רוח]]
[[hi:पवनचक्की]]
[[hi:पवनचक्की]]

Fersiwn yn ôl 20:53, 4 Chwefror 2012

Melin Llynnon ar Ynys Môn.


Melin wynt yw melin sy'n cael ei phŵer o'r gwynt. Mae'r gwynt yn troi hwyliau'r felin, a gellir defnyddio'r egni i wahanol bethau, er enghraifft malu grawn, cynhyrchu trydan neu bwmpio dŵr. Defnyddir y term "melin wynt" fel rheol am y math traddodiadol ar felin. Cyfeirir at y math modern a ddefnyddir i gynhyrchu trydan fel tyrbin gwynt fel rheol, er bod yr egwyddor yr un fath.

Nid oes sicrwydd pa bryd nag ymhle y dyfeisiwyd y felin wynt gyntaf, ond gwyddys ei bod yn cael ei defnyddio yn yr hen Bersia yn nechrau'r cyfnod hanesyddol. Yn Ewrop, mae'r felin wynt yn ymddangos yng ngogledd-orllewin Ffrainc, Fflandrys a de-ddwyrain Lloegr tua'r flwyddyn 1000.

Mewn ardaloedd gwastad lle nad oes dim o dorri ar rym y gwynt y mae'r felin wynt fwyaf llwyddiannus. Yn Ewrop, mae'r Iseldiroedd yn arbennig o enwog am ei melinau gwynt. Ceir nifer fawr yn La Mancha yng nghanolbarth Sbaen hefyd. Yng Nghymru, roedd nifer fawr ohonynt ar Ynys Môn. Dim ond un o felinau gwynt traddodiadol Cymru, Melin Llynnon ger Llanddeusant, Ynys Môn, sy'n dal i weithio.

Dolenni allanol

Melinau gwynt yn La Mancha, Sbaen.


Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato