Mynydd Hiraethog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 8: Llinell 8:
==Cysylltiadau allanol==
==Cysylltiadau allanol==
[http://www.cpat.org.uk/projects/longer/histland/hiraeth/w_mhirae.htm Archaeoleg Mynydd Hiraethog]
[http://www.cpat.org.uk/projects/longer/histland/hiraeth/w_mhirae.htm Archaeoleg Mynydd Hiraethog]

[[Categori:Sir Ddinbych]]

Fersiwn yn ôl 10:00, 4 Mawrth 2007

Mae Mynydd Hiraethog yn ardal o ucheldir, gan mwyaf rhwng 400m a 500m, rhwng Afon Conwy ac Afon Clwyd, yn Sir Ddinbych a Sir Conwy.

Mynydd Hiraethog yw'r rhan fwyaf gogleddol o Fynyddoedd y Cambria. Mae'n ardal o rostir, gyda rhai dyffrynnoedd yn torri ar ei draws. Mae rhannau o Fynydd Hiraethog yn cynnwys trwch o rostir grug, sydd yn brin iawn yng Nghymru. Rheolid y rhostir yma ar gyfer saethu Grugiar yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, ond bellach mae niferoedd y Grugiar wedi gostwng yn sylweddol yma. Mae rhan ddwyreiniol Mynydd Hiraethog yn cynnwys planhigfeydd coedwigaeth sy’n rhan o Fforest Clocaenog.

Mae'r ardal yn adnabyddus am olion cynhanesyddol, yn enwedig o Oes yr Efydd. Ymddengys fod poblogaeth sylweddol wedi bod yn byw yma yn y cyfnod yma, pan oedd yr hinsawdd ychydig yn gynhesach nag ar hyn o bryd.


Cysylltiadau allanol

Archaeoleg Mynydd Hiraethog