Konrad Adenauer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.5.4) (robot yn ychwanegu: kk:Аденауэр Конрад
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: eu:Konrad Adenauer
Llinell 30: Llinell 30:
[[es:Konrad Adenauer]]
[[es:Konrad Adenauer]]
[[et:Konrad Adenauer]]
[[et:Konrad Adenauer]]
[[eu:Konrad Adenauer]]
[[fa:کنراد آدناور]]
[[fa:کنراد آدناور]]
[[fi:Konrad Adenauer]]
[[fi:Konrad Adenauer]]

Fersiwn yn ôl 06:39, 31 Rhagfyr 2011

Adenauer ym 1952 Konrad Hermann Josef Adenauer (5 Ionawr 187619 Ebrill 1967) oedd Canghellor cyntaf Gorllewin yr Almaen yn y cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd, o 1949 hyd 1963. Roedd yn aelod o blaid ganol-dde y CDU. Ei lysenw oedd Der Alte ("Yr Hen Wr").

Ganed Konrad Adenauer yn ninas Cwlen, ac astudiodd y gyfraith yn Freiburg a Bonn. Ym 1917 daeth yn faer Cwlen, swydd a ddaliodd hyd 1933.

Daeth i wrthdrawiad â'r Natsïaid pan ddaethant i rym, a bu raid iddo ffoi am nodded i Abaty Maria Laach. Treuliodd beth amser fel carcharor mewn gwersylloedd crynhoi.

Daeth Adenauer yn gadeirydd y blaid CDU wedi'r Ail Ryfel Byd, ac yn Ganghellor ym 1949 pan oedd yn 73 oed. Ymddeolodd fel Canghellor ym 1963, ond parhaodd yn gadeirydd y CDU hyd 1966.