Rheilffordd Bae Hudson (1997): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Lesbardd (sgwrs | cyfraniadau) |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
===Llifogydd 2017=== |
===Llifogydd 2017=== |
||
Caewyd y rheilffordd ar 23 Mai 2017 oherwydd llifogydd a’r difrod canlynol rhwng Amery a Churchill<ref>[http://www.newswire.ca/news-releases/omnitrax-announces-indefinite-closure-of-the-hudson-bay-railway-from-amery-to-churchill-627505613.html cyhoeddiad i’r wasg, 9 Mehefin 2017]</ref>, |
Caewyd y rheilffordd ar 23 Mai 2017 oherwydd llifogydd a’r difrod canlynol rhwng Amery a Churchill<ref>[http://www.newswire.ca/news-releases/omnitrax-announces-indefinite-closure-of-the-hudson-bay-railway-from-amery-to-churchill-627505613.html cyhoeddiad i’r wasg, 9 Mehefin 2017]</ref>, gan achosi problemau difrifol i economi Churchill; roedd rhaid mewnforio bwyd a thanwydd ar awyrennau. Roedd dadl rhwng llywodraeth Canada ac Omnitrax am gyfrifoldeb dros y gwaith trwsio. Dadlodd y llywodraeth bod gan Omnitrax gyfrifoldeb i wneud y gwaith fel perchnogion. Dadlodd Omnitrax bod y drychineb yn ‘force majeure’ ac felly'n gyfrifoldeb ar y llywodraeth.<ref>[http://www.cbc.ca/news/canada/manitoba/omnitrax-demanded-fix-rail-line-1.4273012 Gwefan CBC, 1 Medi 2017]</ref><ref>[http://www.cbc.ca/news/canada/manitoba/omnitrax-files-notice-nafta-sabatoge-1.4401393 Gwefan CBC, 14 Tachwedd 2017]</ref> |
||
==Rheilffordd Keewatin== |
==Rheilffordd Keewatin== |
Fersiwn yn ôl 11:06, 10 Hydref 2021
Enghraifft o'r canlynol | cwmni rheilffordd |
---|---|
Rhiant sefydliad | Arctic Gateway Group |
Pencadlys | Regina |
Gwladwriaeth | Canada |
Gwefan | http://arcticgateway.com/the-gateway/#railway |
Mae Rheilffordd Bae Hudson yn rheilffordd gyda 1300 cilomedr o gledrau yn Saskatchewan a Manitoba, Canada.
Ffurfiwyd y Cwmni gan gwmni dal OmniTRAX ym mis Gorffennaf 1997 er mwyn prynu 2 gangen y Rheilffordd y Canadian National, yn mynd i’r gogledd o’r Pas,[1] un i Flin Flon ac ymlaen i Lynn Lake ar’r llall i Thompson ac ymlaen i borthladd Churchill ar Fae Hudson.[2] Dechreuodd gwasanaethau ar 20 Awst 1997. Ar yr un adeg, cymerodd OmniTRAX reolaeth porthladd Churchill o Transport Canada. Mae OmniTrax wedi defnyddio trenau mwy, sydd wedi achosi cynnydd mewn traffig o byllau a melinau i’r porthladd. Cludir mwynau, copr, prên, papur ac olew gan y rheilffordd, ac mae VIA Rail yn rhedeg gwasanaeth i deithwyr ar draciau’r rheilffordd.
Hanes
Adeiladwyd y rheilffordd gan Reilffordd Bae Hudson yn y 1900au dan reolaeth Rheilffordd Canadian National ac wedyn Llywodraeth Canada. Cwblhawyd y rheilffordd ym 1929, a rheolwyd y rheilffordd gan Reilffordd Canadian National hyd at 1997.
Adeiladu’r rheilffordd
Y cynllun gwreiddiol oedd adeiladu rheilffordd i Port Nelson, ar aber Afon Nelson, sydd yn llifo o Llyn Winnipeg. Stoppiodd gwaith adeiladu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl ailddechrau, penderfynwyd y buasai cynnal a chadw porthladd ar afon Nelson yn ddrud, a penderfynwyd mynd i aber Afon Churchill. Roedd aber Afon Churchill yn dyfnach, a buasai’n hawdd cynnal porthladd yno.[3]
Llifogydd 2017
Caewyd y rheilffordd ar 23 Mai 2017 oherwydd llifogydd a’r difrod canlynol rhwng Amery a Churchill[4], gan achosi problemau difrifol i economi Churchill; roedd rhaid mewnforio bwyd a thanwydd ar awyrennau. Roedd dadl rhwng llywodraeth Canada ac Omnitrax am gyfrifoldeb dros y gwaith trwsio. Dadlodd y llywodraeth bod gan Omnitrax gyfrifoldeb i wneud y gwaith fel perchnogion. Dadlodd Omnitrax bod y drychineb yn ‘force majeure’ ac felly'n gyfrifoldeb ar y llywodraeth.[5][6]
Rheilffordd Keewatin
Gwerthwyd Rheilffordd Keewatin, rhwng Cyffordd Sheritt a Lynn Lake, i dri llwyth yr ardal ar 1 Ebrill 2006, ac mae trenau cymysg o deithwyr a nwyddau dwywaith bob wythnos.
Cyfeiriadau
- ↑ "Trains return to Churchill". Railway Gazette (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2018.
- ↑ David Malaher (Hydref 1984). "Port Nelson and the Hudson Bay Railway" (yn en). Manitoba History (Cymdeithas Hanes Manitoba) (8). http://www.mhs.mb.ca/docs/mb_history/08/hudsonbayrailway.shtml. Adalwyd 20 Awst 2010.
- ↑ David Malaher (Hydref 1984). "Port Nelson and the Hudson Bay Railway" (yn en). Manitoba History (Cymdeithas Hanes Manitoba) (8). http://www.mhs.mb.ca/docs/mb_history/08/hudsonbayrailway.shtml. Adalwyd 20 Awst 2010.
- ↑ cyhoeddiad i’r wasg, 9 Mehefin 2017
- ↑ Gwefan CBC, 1 Medi 2017
- ↑ Gwefan CBC, 14 Tachwedd 2017