Rhywogaeth mewn perygl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: hif:Endangered species |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: jv:Spesies jroning bebaya cures |
||
Llinell 45: | Llinell 45: | ||
[[it:Specie a rischio]] |
[[it:Specie a rischio]] |
||
[[ja:絶滅危惧種]] |
[[ja:絶滅危惧種]] |
||
[[jv:Spesies jroning bebaya cures]] |
|||
[[kn:ವಿಪತ್ತಿನಲ್ಲಿರುವ ಜೀವಜಾತಿ]] |
[[kn:ವಿಪತ್ತಿನಲ್ಲಿರುವ ಜೀವಜಾತಿ]] |
||
[[ko:멸종위기종]] |
[[ko:멸종위기종]] |
Fersiwn yn ôl 14:23, 28 Awst 2011
Rhywogaeth mewn perygl yw rhywogaeth o anifail neu blanhigyn dydd mewn perygl o ddifodiant, un ai oherwydd fod ei niferoedd yn isel neu bod bygythiad i'r amgylchedd. Yn ôl Undeb Cadwraeth y Byd (IUCN), mae tua 40% o rywogaethau mewn perygl. Mae gan lawer o wledydd ddeddfau cadwraeth yn gwarchod rhai o'r rhywogaethau yma, er bod effeithiolrwydd y deddfau yn amrywio'n fawr.
Statws cadwraeth unrhyw rywogaeth yw'r tebygrwydd y gallai'r rhywogaeth honno wynebu difodiant. Y mwyaf adnabyddus o'r rhestri statws cadwraeth yw Rhestr Goch yw IUCN.
Mae categoriau'r IUCN yn cynnwys:
- Wedi ei ddifodi: dim unigolion o'r rhywogaeth ar ôl, er enghraifft y Dodo.
- Wedi ei ddifodi yn y gwyllt: rhai unigolion ar ôl, ond dim poblogaeth naturiol yn y gwyllt.
- Mewn perygl difrifol: siawns uchel iawn o ddifodiant yn y dyfodol agos, er enghraifft Rheinoseros Jafa.
- Mewn perygl: siawns uchel o ddifodiant yn y dyfodol, er enghraifft y Morfil Glas, Teigr, Albatross
- Archolladwy: siawns uchel o ddifodiant yn y tymor hir, er enghraifft y Llew, Gaur.
- Dibynnu ar gadwraeth: er nad oes bygythiad ar hyn o bryd, mae'n ddibynnol ar raglenni cadwraeth, er enghraifft Caiman Du
- Bron dan fygythiad: gall ddod dan fygythiad yn y dyfodol agos.
- Dim bygythiad: dim bygythiad ar hyn o bryd.