Cymathiad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: hi:सम्मिलन (भाषाविज्ञान) |
B r2.6.5) (robot yn ychwanegu: kk:Ассимиляция (тілтану) |
||
Llinell 31: | Llinell 31: | ||
[[ja:同化 (音声学)]] |
[[ja:同化 (音声学)]] |
||
[[jv:Asimilasi]] |
[[jv:Asimilasi]] |
||
[[kk:Ассимиляция (тілтану)]] |
|||
[[ko:동화 (언어학)]] |
[[ko:동화 (언어학)]] |
||
[[li:Assimilatie (taolkunde)]] |
[[li:Assimilatie (taolkunde)]] |
Fersiwn yn ôl 07:04, 18 Gorffennaf 2011
Math o gyfnewid seinegol lle mae sain yn newid i fod yn debycach i sain arall yn ei gyd-destun yw cymathiad.
Gelwir cymathiad lle mae sain yn dylanwadu ar sain ddilynol yn gymathiad blaen. Enghraifft o gymathiad blaen yn y Gymraeg yw simme a glywir ar lafar yn y gorllewin am simne. Yma mae'r m wedi troi'r n sy'n ei dilyn yn m hefyd.
Gelwir cymathiad lle mae sain yn dylanwadu ar sain flaenorol yn gymathiad ôl. Enghraifft o gymathiad ôl yn y Gymraeg yw tac-cu, a glywir yn aml am tad-cu yn y de. Yma mae'r c yn y cu wedi troi'r d ar ddiwedd tad yn c; mae hwn yn gymathiad llwyr. Mae campunt, a glywir yn gyffredin ar lafar am canpunt, yn enghraifft o gymathiad ôl rhannol. Yma mae'r p yn punt wedi dylanwadu ar y llythyren n flaenorol a'i thynnu yn nes at ei sain ei hun, drwy ei throi yn m. Enghraifft o gymathiad ôl sy'n effeithio ar lafariaid yw bwgwth am bygwth.