Cassandra: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: id:Kassandra |
CocuBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.1) (robot yn ychwanegu: kk:Кассандра |
||
Llinell 35: | Llinell 35: | ||
[[it:Cassandra (mitologia)]] |
[[it:Cassandra (mitologia)]] |
||
[[ja:カッサンドラー]] |
[[ja:カッサンドラー]] |
||
[[kk:Кассандра]] |
|||
[[ko:카산드라]] |
[[ko:카산드라]] |
||
[[lt:Kasandra]] |
[[lt:Kasandra]] |
Fersiwn yn ôl 04:17, 20 Mehefin 2011
Cymeriad ym Mytholeg Groeg oedd Cassandra (Groeg: Kασσάνδρα), hefyd Alexandra. Roedd yn ferch i Priam, brenin Caerdroea a'i wraig Hecuba.
Roedd ganddi'r ddawn o broffwydo'r dyfodol. Yn ôl un fersiwn o'r chwedl, treuliodd hi a'i brawd Helenus moson yn nheml Apollo, a llyfodd y nadroedd yn y deml ei chlustiau yn lân, fel y gallai glywed y dyfodol. Syrthiodd Apollo mewn cariad a hi, ond pan na ddychwelodd Cassandra ei gariad, rhoddodd felltith arni: y byddai bob amser yn proffwydo'r dyfodol yn gywir, ond na fyddai neb byth yn ei chredu.
Proffwydodd Cassandra ddinistr Caerdoea yn Rhyfel Caerdroea, a rhybuddiodd am ystryw Ceffyl Pren Caerdroea, ond ni chredwyd hi a syrthiodd y ddinas. Credai ei theulu ei bod yn orffwyll. Wedi cwymp y ddinas, rheibiwyd hi gan Aiax y Lleiaf; yna cymerodd Agamemnon hi yn ordderch. Llofruddiwyd Cassandra ac Agamemnon gan Clytemnestra, gwriag Agamemnon, a chariad Clytemnestra, Aegisthus, wedi i Agamemnon anwybyddu rhybudd Cassandra.