Anthracs

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Anthracs
Anthrax PHIL 2033.png
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol Clefyd Edit this on Wikidata
Math Primary bacterial infectious disease edit this on wikidata
Arbenigedd meddygol Afiechydon heintiol edit this on wikidata
Dynodwyr
Thesawrws NCI C84565 edit this on wikidata
Freebase /M/0bsht edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF 39405 edit this on wikidata
MeSH D000881 edit this on wikidata
UMLS CUI C0003175 edit this on wikidata
Arall
Commons page Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Anthracs yn haint a achosir gan y bacteriwm Bacillus anthracis.[1] Gall ddigwydd mewn pedair ffurf: croen, ysgyfaint, coluddol a chwistrellaid.[2] Mae symptomau'n dechrau rhwng un diwrnod a dau fis wedi dal yr haint. Mae'r ffurf croen yn ymddangos gyda phothell fechan gyda'r croen o'i hamgylch wedi chwyddo sydd yn aml yn troi mewn i wlser ddi-boen gyda chanol du. Mae'r ffurf anadlu yn ymddangos gyda gwres, poen yn y fron a diffyg anadl. Mae'r ffurf coluddol yn ymddangos gyda dolur rhydd a all gynnwys gwaed, poenau abdomenol, cyfog a chwydu. Mae'r ffurf chwistrelliad yn ymddangos gyda thwymyn a chrawniad ar safle chwistrelliad y cyffur.[3]

Lledaenir Anthracs drwy gyffyrddiad a sborau'r bacteria, sydd yn aml o gynnyrch anifeiliad heintus. Mae'r cyffyrddiad yn digwydd drwy anadlu, bwyta, neu drwy ardal o groen toredig. Nid yw'n arferol yn ymledu'n uniongyrchol rhwng pobl.[4] Mae ffactorau risg yn cynnwys pobl sy'n gweithio gydag anifeiliaid neu gynnyrch anifeiliaid, teithwyr, gweithwyr post, a gweithwyr milwrol. Cadarnheir y diagnosis drwy ddarganfod gwrthgyrff neu'r tocsin yn y gwaed neu drwy feithrin sampl o'r safle heintus.[5]

Argymhellir brechiad Anthracs i bobl sydd mewn risg uchel.[6] Mae imiwneiddio anifeiliaid rhag Anthracs yn cael ei argymell mewn ardaloedd sydd wedi dioddef heintiau blaenorol. Mae dau fis o wrthfiotig, megis doxycycline neu ciprofloxacin, yn dilyn datguddiad hefyd yn gallu atal haint.[7] Os yw haint yn digwydd bydd y drinaeth gyda gwrthfiotigau a gwrthwenwyn.[8] Bydd y math a'r nifer o wrthfiotigau a ddefnyddir yn dibynnu ar fath yr heintiad. Argymhellir gwrthwenwyn ar gyfer y rhai hynny sydd a haint wedi ymledu.

Gwelir Anthracs yn fwyaf cyffredin mewn pobl yn Affrica a chanol a de Asia.[9] Mae'n digwydd hefyd yn weddol reolaidd yn Ne Ewrop, ond mae'n angyffredin yng Ngogledd Ewrop a Gogledd America.[10] Yn fyd-eang, mae o leiaf 2,000 o achosion yn digwydd, gyda tua dau achos y flwyddyn yn Yr Unol Daleithiau.[11][12] Llid y croen yw dros 95% o'r achosion. Heb driniaeth, mae perygl marwolaeth o anthracs y croen yn 24&. Ar gyfer llid coluddol, ma'r perygl marwolaeth yn 25 i 75%, tra fod anthracs anadlol yn lladd tua 50 i 80%, hyd yn oed gyda thriniaeth. Hyd yr 20fed ganrif, roedd heintiau anthracs yn lladd cannoedd o filoedd o bobl ac anifeiliaid bob blwyddyn.[13] Mae Anthracs wedi ei ddatblygu'n arf milwrol gan nifer o wledydd.[14] Mewn llysysorion bydd haint yn digwydd pan fyddant yn bwyta neu anadlu'r sborau wrth bori. Gall anifeiliaid cigysol gael eu heintio drwy fwyta anifieiliad heintus.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Basic Information What is anthrax?". 1 September 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 May 2016. https://www.cdc.gov/anthrax/basics/index.html.
  2. "Types of Anthrax". 21 July 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 May 2016. https://www.cdc.gov/anthrax/basics/types/index.html.
  3. "Symptoms". 23 July 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 May 2016. https://www.cdc.gov/anthrax/basics/symptoms.html.
  4. "How People Are Infected". 1 September 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 December 2016. https://www.cdc.gov/anthrax/basics/how-people-are-infected.html.
  5. "Diagnosis". 1 September 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 May 2016. https://www.cdc.gov/anthrax/basics/diagnosis.html.
  6. "Who Is At Risk". 1 September 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 May 2016. https://www.cdc.gov/anthrax/risk/index.html.
  7. Hendricks, KA; Wright, ME; Shadomy, SV; Bradley, JS; Morrow, MG; Pavia, AT; Rubinstein, E; Holty, JE et al. (February 2014). "Centers for disease control and prevention expert panel meetings on prevention and treatment of anthrax in adults". Emerging Infectious Diseases 20 (2). doi:10.3201/eid2002.130687. PMC 3901462. PMID 24447897. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3901462.
  8. "Treatment". 14 January 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 May 2016. https://www.cdc.gov/anthrax/medical-care/treatment.html.
  9. Turnbull, Peter (2008). Anthrax in humans and animals (PDF) (4 ed.). Geneva, Switzerland: World Health Organization. pp. 20, 36. ISBN 9789241547536. 
  10. Schlossberg, David (2008). Clinical Infectious Disease. Cambridge University Press. p. 897. ISBN 9781139576659. 
  11. Anthrax: Global Status. GIDEON Informatics Inc. 2016. p. 12. ISBN 9781498808613. 
  12. "Anthrax". National Center for Emerging and Zoonotic Infectious Diseases. 26 August 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 December 2016. https://www.cdc.gov/nczved/divisions/dfbmd/diseases/anthrax/technical.html.
  13. Cherkasskiy, B. L. (1999). "A national register of historic and contemporary anthrax foci". Journal of Applied Microbiology 87 (2): 192–195. doi:10.1046/j.1365-2672.1999.00868.x. PMID 10475946.
  14. "Anthrax". 17 June 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 May 2016. http://www.fda.gov/BiologicsBloodVaccines/Vaccines/ucm061751.htm.