Anhwylder bwyta

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Anhwylderau bwyta)
Anhwylder bwyta
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathanhwylder datblygiadol penodol, anhwylder maeth, clefyd, anorecsia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Anhwylder bwyta yw pan fydd unigolyn yn datblygu agwedd nad yw’n iach tuag at fwyd sy’n ei achosi i newid ei ymddygiad a’i diet yn sylweddol.

Weithiau byddwn ni’n ceisio bwyta’n fwy iach, yn bwyta mwy na’r arfer neu yn colli ein harchwaeth. Mae newid eich arferion bwyta o dro i dro yn normal. Ond, os yw bwyd a bwyta yn teimlo fel petai’n rheoli eich bywyd, efallai ei fod yn broblem.

Bydd rhywun yn datblygu anhwylder bwyta oherwydd ei fod yn teimlo fel datrysiad i broblemau neu deimladau anodd sydd ganddyn nhw. Bydd llawer o bobl yn credu bod pobl sydd â phroblem fwyta dan bwysau. Ond nid yw hyn yn wir. Gall unrhyw un brofi problemau bwyta, beth bynnag yw eu hoed, rhywedd, pwysau neu gefndir.

Mathau o anhwylderau bwyta[golygu | golygu cod]

Anorecsia Nerfosa[golygu | golygu cod]

Mae pobl sydd ag anorecsia nerfosa yn dueddol o gyfyngu’n sylweddol ar faint o fwyd maen nhw’n ei fwyta, gan fwyta llai nag sy’n iach. Maent yn gwneud hyn fel arfer er mwyn colli pwysau neu cheisio newid siâp eu corff – mae’r pethau yma yn gallu bod yn brif ffocws i nifer sydd ag anorecsia.

Bwlimia Nerfosa[golygu | golygu cod]

Bydd pobl sydd â bwlimia yn aml yn gorfwyta mewn pyliau, gan wedyn wneud eu hunain yn sâl er mwyn cael gwared arno. Byddant yn gwneud hyn fel arfer drwy chwydu (‘purging’) neu drwy ddefnyddio carthyddion (‘laxatives’).

Anhwylder Gorfwyta Mewn Pyliau (BED)[golygu | golygu cod]

Yn aml, bydd unigolion sydd ag Anhwylder Gorfwyta Mewn Pyliau (‘Binge Eating Disorder’) yn bwyta prydau a fyddent yn cael eu hystyried gan nifer yn anarferol o fawr o fewn cyfnod byr, ac yn teimlo llwyr allan o reolaeth wrth wneud hynny. Ni allant reoli na rhwystro’r awch i fwyta mwy. Yn aml iawn, bydd yr unigolion yma’n teimlo’n sâl, mewn poen ac yn dioddef euogrwydd yn dilyn pyliau o’r fath.

Anhwylder Bwyta Amhenodol (EDNOS)[golygu | golygu cod]

Os nad oes modd adnabod ymddygiad bwyta unigolion yn unol ag un o’r tri anhwylder a nodir uchod, yn aml fe ystyrir fod ganddynt Anhwylder Bwyta Amhenodol (‘Eating Disorder Not Otherwise Specified’).

Orthorecsia[golygu | golygu cod]

Mae Orthorecsia’n cael ei ddiffinio fel obsesiwn â bwyta’n iach. Mae symptomau Orthorecsia yn cynnwys torri allan grwpiau bwyd cyfan o’r diet er mwyn dileu unrhyw fwydydd nad ydynt yn ‘bur’, meddyliau afresymol a dewis bwyd ar sail eu purdeb yn hytrach na phleser.

Diabwlimia[golygu | golygu cod]

Anhwylder bwyta lle mae pobl sydd â chlefyd y siwgr math 1 yn rhoi llai o inswlin nag sydd ei angen arnynt, neu yn rhoi’r gorau i’w gymryd yn gyfan gwbl, er mwyn colli pwysau.[1][2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Anhwylderau Bwyta". meddwl.org. 2017-02-27. Cyrchwyd 2022-03-05.
  2. "Types of eating disorders". www.mind.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-05-04.
  3. "Anhwylderau bwyta". NCMH Cymraeg. Cyrchwyd 2022-05-04.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Anhwylderau Bwyta ar wefan , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall