Neidio i'r cynnwys

Alena Wagnerová

Oddi ar Wicipedia
Alena Wagnerová
Ganwyd18 Mai 1936 Edit this on Wikidata
Brno Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Masaryk Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, newyddiadurwr, cyfieithydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, rhyddieithwr, dramodydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Pelikán Edit this on Wikidata

Awdures a newyddiadurwraig Tsiec yw Alena Wagnerová (ganwyd 18 Mai 1936) sy'n sgwennu mewn Almaeneg a mewn Tsieceg.[1]

Fe'i ganed yn Brno, ail ddinas fwyaf y Weriniaeth Tsiec, ar 18 Mai 1936.[2][3][4][5]

Coleg a gwaith

[golygu | golygu cod]

Wedi gadael ei hysgol leol, astudiodd fioleg ym Mhrifysgol Masaryk. Aeth Wagnerová ymlaen i astudio addysgu, theatr, Almaeneg a llenyddiaeth gymharol. Dysgodd yn y Dům pionýrů yn Brno, ac fe'i penodwyd yn bennaeth labordy'r Gyfadran Filfeddygol yn y Brifysgol Amaethyddol cyn newid ei gyrfan'n llwyr gan ddod yn ddramodydd yn y Divadlo Julia Fučíka. Rhwng 1968 a 1969, bu'n olygydd Studentké listy. Aeth i'r Almaen yn 1969 lle priododd. Felly gweithiodd Wagnerová ar brosiect Paměť žen (Atgofion i Ferched) ym Mhrâg.[1] [6][7][8]

Mae wedi ysgrifennu am awduron Almaeneg o Prâg, e.e. Franz Kafka a Milena Jesenská, a ffigurau diwylliannol Bohemia, pobl fel Sidonie Nádherná o Borutín. Yn ei ffuglen a'i hysgrifennu ffeithiol, mae'n archwilio materion fel statws menywod a chysylltiadau Tsiec-Almaeneg.[1]

Gweithiau[1]

[golygu | golygu cod]
  • Milena Jesenská, bywgraffiad (1996), Tsieceg
  • Die Familie Kafka aus Prag, bywgraffiad (1997), Almaeneg
  • Milena Jesenská: Biographie, bywgraffiad (1997), Almaeneg
  • Das Leben der Sidonie Nádherný, bywgraffiad (2003), Almaeneg
  • Helden der Hoffnung : die anderen Deutschen aus den Sudeten, 1935-1989, hanes (2008), Almaeneg[9]
  • Sidonie Nádherná, bywgraffiad (2013), Tsieceg
  • Bol lásky prodejné (2013), Tsieceg

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Ganolfan PEN yr Almaen am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Pelikán .


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Alena Wagnerová". Czech literature portal.[dolen farw]
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12296480p. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12296480p. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 23 Tachwedd 2019. https://cs.isabart.org/person/90138. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 90138. https://aleph.vkol.cz/F/?func=find-c&ccl_term=sys=000001057&local_base=svk04. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2024.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014 Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 23 Tachwedd 2019. https://cs.isabart.org/person/90138. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 90138. https://aleph.vkol.cz/F/?func=find-c&ccl_term=sys=000001057&local_base=svk04. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2024.
  6. Alma mater: https://aleph.vkol.cz/F/?func=find-c&ccl_term=sys=000001057&local_base=svk04. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2024.
  7. Man gwaith: https://aleph.vkol.cz/F/?func=find-c&ccl_term=sys=000001057&local_base=svk04. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2024.
  8. Galwedigaeth: https://cs.isabart.org/person/90138. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 90138. https://cs.isabart.org/person/90138. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 90138. https://aleph.vkol.cz/F/?func=find-c&ccl_term=sys=000001057&local_base=svk04. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2024. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 15 Rhagfyr 2022. https://aleph.vkol.cz/F/?func=find-c&ccl_term=sys=000001057&local_base=svk04. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2024. https://aleph.vkol.cz/F/?func=find-c&ccl_term=sys=000001057&local_base=svk04. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2024. https://aleph.vkol.cz/F/?func=find-c&ccl_term=sys=000001057&local_base=svk04. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2024.
  9. Mastrogregori, Massimo (2012). 2008. International Bibliography of Historical Sciences. t. 158. ISBN 3110276097.