Albert Roux

Oddi ar Wicipedia
Albert Roux
GanwydAlbert Henri Roux Edit this on Wikidata
8 Hydref 1935 Edit this on Wikidata
Semur-en-Brionnais Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ionawr 2021 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ffrainc Ffrainc
Alma mater
  • West Suffolk College Edit this on Wikidata
Galwedigaethpen-cogydd, person busnes Edit this on Wikidata
PlantMichel Roux, Jr. Edit this on Wikidata
Gwobr/auOfficier de la Légion d'honneur, Officer of the Order of Agricultural Merit, Chevalier de la Légion d'Honneur, OBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.albertroux.co.uk Edit this on Wikidata

Chef Ffrengig oedd Albert Roux, OBE (8 Hydref 19354 Ionawr 2021).[1] Roedd yn berchennog y bwyty "Le Gavroche" ym Mayfair, Llundain, gyda'i frawd Michel (m. 2020).

Cafodd Roux ei eni yn Semur-en-Brionnais, Saône-et-Loire, yn fab i charcutier.[2] Daeth y ddau frawd Roux yn gogyddion crwst. Wedyn aeth y ddau ohonyn nhw i weithio yn Llysgenhadaeth Prydain ym Mharis. Fe wnaethant agor eu bwyty cyntaf yn Llundain ym 1967.

Roedd Roux yn briod tairwaith ac roedd ganddo un mab, Michel Roux, Jr., perchennog presennol "Le Gavroche".[3] Bu farw Roux yn Llundain, yn 85 oed.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Price, Katherine (12 Mawrth 2020). "Michel Roux dies aged 79". The Caterer. Cyrchwyd 12 March 2020. (Saesneg)
  2. "Albert Roux, OBE, KFO | Roux Scholarship". Cyrchwyd 1 Tachwedd 2019.
  3. Thring, Oliver (21 Ebrill 2011). "How the Roux family educated the British palate". The Guardian. Cyrchwyd 19 Awst 2012. (Saesneg)
  4. Hauser, Christine (6 Ionawr 2021). "Albert Roux, Chef Who Brought French Cuisine to London, Dies at 85". The New York Times. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.