Akademi Kernewek
Enghraifft o'r canlynol | rheoleiddiwr iaith ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2015 ![]() |
Pencadlys | Truru ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Gwefan | http://akademikernewek.org.uk/ ![]() |
Y corff academaidd swyddogol sy'n gyfrifol am ddatblygiad ieithyddol y Gernyweg yw Akademi Kernewek (academi iaith Cernyweg).[1]
Mae'r academi yn cynnwys bwrdd rheoli a phedwar panel, pob un yn gyfrifol am y meysydd canlynol: safoni'r iaith, datblygu geiriaduron yn y Ffurf Ysgrifenedig Safonol, cynghori ar enwau strydoedd a lleoedd, datblygu terminoleg a chynnal ymchwil[2]
Mae Akademi Kernewek yn elusen gofrestredig sy’n bodoli i hybu gwybodaeth ac addysg y cyhoedd yn yr iaith Gernyweg trwy:
- datblygu dealltwriaeth o eirfa, gramadeg ac enwau lleoedd yr iaith Gernyweg
- datblygu'r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r Gernyweg a gwneud y wybodaeth hon yn hygyrch i’r cyhoedd i’w defnyddio gan ysgolion, ysgolion meithrin, dosbarthiadau addysg oedolion, sefydliadau addysgol, sefydliadau ymchwil, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn yr iaith Gernyweg, neu ei dysgu.
Dolenni[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Akademi Kernewek". Maga Kernow. Cornwall Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 October 2017. Cyrchwyd 26 October 2017.
- ↑ "Akademi Kernewek". Akademi Kernewek. Akademi Kernewek. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-03. Cyrchwyd 26 October 2017.