Afon Yonne
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Seine-et-Marne |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 46.9561°N 4.0108°E, 48.3886°N 2.9572°E |
| Tarddiad | Mont Preneley |
| Aber | Afon Seine |
| Llednentydd | Anguison, Serein, Cure, Armance, Armançon, Auxois, Beuvron, Tholon, Vrin, Vanne, Druyes (river), Houssière, Oreuse, Baulche, Rû de Sinotte |
| Dalgylch | 10,887 cilometr sgwâr |
| Hyd | 292.3 ±0.1 cilometr |
| Arllwysiad | 105 metr ciwbic yr eiliad |
![]() | |
Afon yng ngogledd Ffrainc sy'n llifo i mewn i afon Seine yw 'afon Yonne. Mae'n 293 km o hyd, ac yn llifo trwy région Bourgogne-Franche-Comté yn bennaf. Caiff département Yonne ei enw o'r afon.
Ceir tarddle'r afon yn fforest La Gravelle ym mynyddoedd Morvan, i'r de-ddwyrain o Château-Chinon. Llifa i afon Seine yn Montereau-Fault-Yonne, yn département Seine-et-Marne. Mae llif dŵr yr Yonne yn fwy na llif dŵr y Seine yn eu cymer.
