Acallam na Senórach

Oddi ar Wicipedia

Mae Acallam na Senórach ("Ymddiddan yr Hynafwyr") yn destun naratif Gwyddeleg sy'n perthyn i Gylch y Fiana.

Mae ar gadw mewn dau fersiwn bylchog o tua 1200 ac mewn fersiwn mwy diweddar a gyfansoddwyd yn y 13g neu'r 14g. Y prif gymeridau yn yr Acallam, sy'n gyfuniad o ryddiaith a barddoniaeth, yw Oisín mab Finn mac Cumaill a'i nai Caílte. Ynghyd â rhai aelodau eraill o fintai Finn maent yn cwrdd â Sant Padrig a'i ddilynwyr ac yn trafod hanes traddodiadol a mytholeg yr Iwerddon gynnar. Math o gompendiwm o ddysg Wyddelig gynnar ydyw, ac mae'n perthyn i'r un dosbarth o lên ddysgedig â'r Dindsenchas.