Abaqa Khan

Oddi ar Wicipedia
Abaqa Khan
Ganwyd27 Chwefror 1234 Edit this on Wikidata
Ymerodraeth y Mongol Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ebrill 1282 Edit this on Wikidata
Hamadan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth y Mongol Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Swyddkhan Edit this on Wikidata
TadHulagu Khan Edit this on Wikidata
PriodMaria Palaiologina, Padishah Khatun, Öljei Khatun, Buluqhan Khatun, Bulujin Egachi, Todei Khatun, Nokdan Khatun, Mirtay Khātūn Edit this on Wikidata
PlantArghun, Gaykhatu, Oljath, Georgios Bahadur, El Qutlugh Khatun, Malika Khatun, Toghanchuq Khatun, Theodora Palaiologina Arachantloun Edit this on Wikidata
LlinachChingissid, Q12839171 Edit this on Wikidata

Teyrn Mongolaidd oedd Abaqa Khan (27 Chwefror 12344 Ebrill 1282) a deyrnasai yn ail chan yr Ilchanaeth o 1265 hyd at ei farwolaeth. Efe oedd mab hynaf ac olynydd Hulagu Khan, sefydlwr yr Ilchanaeth ac un o wyrion Genghis Khan.

Ganed Abaqa ym Mongolia yn fab i Hulagu, mab Tolui. Yn sgil buddugoliaethau Hulagu yng Ngorllewin Asia, a sefydlu'r Ilchanaeth ym 1256, penodwyd Abaqa yn llywodraethwr Tyrcestan. Wedi marwolaeth Hulagu ar 8 Chwefror 1265, gwasanaethodd Abaqa yn ilchan am bum mlynedd a hanner cyn iddo gael ei ethol i'r swydd yn ffurfiol ar 26 Tachwedd 1270. Mae'n debyg i Abaqa gadw at ffydd Fwdhaidd ei lwyth, ac yn ôl yr arfer Fongolaidd fe gafodd nifer o wragedd, gan gynnwys ei khatun (cydweddog) Buluqhan a'r despina-khatun Maria Palaiologina, merch anghyfreithlon yr Ymerawdwr Bysantaidd Mihangel VIII Palaiologos. Er na chafodd ei fedyddio, bu Abaqa yn gefnogol iawn i Gristnogaeth, ac ymddengys y groes a ffurfeb Gristnogol ar ddarnau arian o'i deyrnasiad.[1]

Parhaodd y rhyfeloedd rhwng y Mongolwyr a'r Mwslimiaid yn ystod teyrnasiad Abaqa, a gorchfygwyd Antioch gan luoedd y Mamlwc ym 1268. Er gwaethaf ei ffafriaeth i Gristnogion yn ei diriogaeth, methiant a fu ei ymdrechion i ganfod cynghreiriaid Ewropeaidd ar gyfer croesgad yn erbyn y Mamlwciaid. Arwyddodd cytundebau heddwch gyda'r Llu Euraid ym 1268 a Gweriniaeth Fenis ym 1271.[1]

Ymhlith ei blant oedd dau fab a fyddai'n esgyn i'r chanaeth, Arghun (teyrnasai 1284–91) a Geikhatu (t. 1291–95). Bu farw Abaqa yn 48 oed, a fe'i olynwyd yn chan gan ei frawd iau, Ahmad Tegüder (t. 1282–84).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Paul D. Buell, Historical Dictionary of the Mongol World Empire (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2003), t. 101.