A Desperate Poaching Affray

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffilm 1903 yw A Desperate Poaching Affray, a elwir yn yr Unol Daleithiau fel The Poachers.

Gwnaed y ffilm gan y cynhyrchydd ffilm o Gymru, William Haggar . Dri munud o hyd, mae'r ffilm yn cael ei chydnabod fel dylanwad cynnar ar ddrama naratif mewn ffilm Americanaidd. Defnyddiodd y ffilm llawer o dechnegau arloesol. Ystyrir bod y ffilm wedi helpu i lawnsio'r subgenre "chase" a dylanwadu ar The Great Train Robbery gan Edwin S. Porter.[1]

Yn y ffilm gwelir tystiolaeth glir o ddealltwriaeth Haggar o’r angen i sicrhau dyfnder i’r digwyddiadau ar y sgrin. Llwyddodd i ychwanegu cyffro er bod y camera'n statig, drwy gyfarwyddo’r actorion i fynd i mewn ac allan o’r ffrâm yn agos at y camera ac o onglau amrywiol. Mae golygfa panio gyntaf Haggar yn dangos y ddau botsiwr yn rhedeg o afael y ciper a'r heddlu ac yn neidio dros giât. Mae dau o'i feibion, Walter a William ifanc, yn chwarae rolau pwysig yn y ffilm.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Top Welsh directors: William Haggar". BBC Wales. 5 Mawrth 2010. Cyrchwyd 21 Chwefror 2011.
  2. Charles Musser (1994). The Emergence of Cinema: The American Screen to 1907 (yn Saesneg). University of California Press. t. 365.