ΜTorrent

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Eicon uTorrent

Cleient (rhaglen meddalwedd) BitTorrent sydd ar gael yn rhad ac am ddim gan gwmni BitTorrent, Inc. ydy μTorrent (neu uTorrent). Heblaw am yn Tsieina, μTorrent ydy'r cleient BitTorrent mwyaf poblogaidd yn y byd.

Dylunwyd y rhaglen ers 2005 i gymryd cyn lleied â phosib o faint ac adnoddau ar gyfrifiaduron wrth barhau i weithio'n debyg i gleientiaid BitTorrent mwy. Mae μTorrent ar gael ar gyfer Microsoft Windows, Mac OS X ac Linux a hefyd mewn nifer o ieithoedd, yn cynnwys y Gymraeg.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

PC template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gyfrifiaduron neu gyfrifiadureg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.