Neidio i'r cynnwys

ß

Oddi ar Wicipedia
ß
Enghraifft o:clymlythyren, Latin-script letter Edit this on Wikidata
Rhan oGerman alphabet Edit this on Wikidata
Yn cynnwysſ, short s Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y lythyren "ß" Eszett mewn gwahanol teipysgrifau

Clymlythyren a ddefnyddir yn yr iaith Almaeneg i gynrychioli'r gytsain ddwbl "s" yw ß. Ei henw Almaeneg yw Eszett (a elwir hefyd yn scharfes S, sef "s finiog"). Mae'r Eszett yn llythyren swyddogol yr wyddor yn yr Almaen ac Awstria; yn y Swistir, ni ddefnyddir yr Eszett o gwbl, dim ond "ss".

Does dim consensws dros wreiddiau'r glyff hwn. Golyga ei enw, Es-zett yn syml, S-Z. Awgryma hyn gysylltiad gyda'r "s hir ac z" (ſʒ) ond mae'r sgript Lladin hefyd yn gyfarwydd gyda'r glymlythren "s hir dros s grwm" (ſs). Gan i'r Almaen ddefnyddio stript Gothig hyd at yr 1940au, prin iawn y defnyddiwyd y teipwynebau yma mewn llythrennau bras a daeth fersiwn prif lythryen o'r Eszett byth i ddefnydd cyffredin, er i drafodaethau dros ei chreu fod yn gyffredin ers ddiwedd 19g.

O ganlyniad, yr eilydd ar gyfer fersiwn llythyren bras wrth deip-argraffu oedd yr SZ gwreiddiol (MaßeMASZE, oedd yn wahanol i'r Masse → MASSE) ac yn hwyrach SS (MaßeMASSE). Defnyddio'r SS hyd yma yw'r unig eilydd ar gyfer y lythyren wrth ei sgwennu fel prif lythyren yn ôl yr orthograff swyddogol Rechtschreibreform yn yr Almaen ac Awstria

Cyfoes

[golygu | golygu cod]

Ers 2008 mae'r fersiwn llythren mawr (ẞ) o'r glyff Eszett yn rhan o Unicode gan ymddangos mewn mwy nag un teipwyneb. Nid yw eto wedi llifo i ysgrifennu ar lawr gwlad. Mae allweddell Almaeneg safonnol newydd (DIN 2137-T2) wedi cynnwys y prif lythyren ß ers 2012. Ers 2024 mae'r Eszett mawr yn cael ei ffafrio'n swyddogol pan mae glyff ar gael yn lle SS, ond mae'r SS yn dal yn dderbynol.

I nifer o Gymry bydd y lythyren Eszet yn gyfarwydd ar fathodyn tîm pêl-droed cenedlaethol yr Almaen yn y gair Fußball ac ar arwyddion stryd lle gwelir y gair Straße ("stryd").