FK Partizani Tirana: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Infobox football club | clubname = Partizani Tirana | image = Partizani Tirana logo.svg | fullname = Futboll Klub Partizani Tiranë | nickn...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:40, 3 Tachwedd 2018

Partizani Tirana
Partizani Tirana logo.svg
Enw llawnFutboll Klub Partizani Tiranë
LlysenwauDemat e kuq (Y Teirw Coch)
SefydlwydChwefror 4, 1946; 78 o flynyddoedd yn ôl (1946-02-04)
MaesStadiwm Selman Stërmasi
CadeiryddGazmend Demi
HyfforddwrSkënder Gega
CynghrairAlbanian Superliga
2017–18Albanian Superliga, 5th
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Lliwiau Trydydd dewis
Tymor cyfredol

Mae FK Partizani Tirana, neu fel rheol, Partizani Tirana yn glwb pêl-droed yn Tirana, prifddinas, Albania. Mae Partizani yw un o'r clybiau mwyaf llwyddiannus ac wedi ennill 15 pencampwriaethau ***, 15 Cwpan Albania a Super Cup Albania.

Hanes

Delwedd:Loro borici.jpg
With Partizani Loro Boriçi won the 1949 and 1954 titles.[1]

Sefydlwyd y clwb yn 1946 fel Ushtria Kombetare Tirane[2] a gan, ddilyn traddodiad y gwledydd Comiwnyddol o roi timau yn ôl adrannau o'r llywodraeth neu'r lluoedd, dyma oedd tîm fyddin. Ffurfiwyd Ushtria ("byddin" yn Albaneg) o chwaraewyr dau dîm o filwyr oedd eisoes yn bodoli, Liria Korçë a Shkodër Ylli yn 1945.[3] Symudwyd y chwaearwyr gorau o Liria Korçë a Shkodër Ylli i chwarae i Ushtria. Ar 4 Chwefror 1946 sefydlwyd y clwb chwaraeon (gan gynnwys pêl-droed) newydd fel Partizani er cof a dathlu y lluoedd comiwnyddol a ryddhaodd Albania o'r Natsiaid wedi'r rhyfel. Chwaraewyr y gêm gyntaf ar y 4 Chwefror

Yn ei flwyddyn gyntaf bu'r clwb ond yn chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn timau eraill Albaniaid. Ond y flwyddyn ganlynol ymunodd clwb â'r gynghrair, gan ennill y gynghrair wrth ennill 14, 1 gêm gyfartal a cholli 1.[4]

Ynghyd â Dinamo Tirana, Partizani oedd sêr y bencampwriaeth cenedlaethol yn y 50au a'r 60au. Ymhlith y chwaraewyr mwyaf cynrychiol oedd yr Refik Resmja, a enillodd y bencampwriaeth 9 gwaith gan sgorio 59 gôl mewn 24 gêm yn y Kategoria e Pare 1951, sef y chwarawr i sgorio y mwayf o goliau mewn tymor.

Ym 1962 chwaraeodd y tîm am y tro cyntaf mewn cystadlaethau Ewropeaidd ac yn 1970 enillon nhw Cwpan y Balcan, sef cystadleuaeth i dimau clwb o wledydd y Balcanau. Dyma'r unig dwrnamaint rhyngwladol i'w hennill gan dîm o Albania.

Yn dilyn cwymp Comiwnyddiaeth yn 1989 ac yna cwymp yr Undeb Sofietaidd yn 1991 daeth hi'n gynyddol anodd cynnal tîm oedd wedi ei seilio ar y fyddin a gallu'r fyddin i orfodi neu cymell chwaraewyr timau eraill i chwarae iddynt. Er iddynt ennill y dwbl yn 1993 cafwyd cyfnod o ddisgyn allan o'r *** ac i'r Adran is. Maent bellach (2018-19) yn chwarae yn y **.

Cit

Original kit of FK Partizani
Cartref - Crys, trwsus, sannau coch
Oddi Cartref - Crys, trwsus, sannau gwyn

Dolenni

Cyfeiriadau

  1. Kuka, Bledar. "Loro Borici, kollos i futbollit shqiptar". Shkodra Sport. Shkodra Sport. Cyrchwyd 14 August 2015.
  2. http://www.giovanniarmillotta.it/albania/calcio/alba47.html
  3. http://www.shkodrasport.com/?option=com_content&view=article&id=5478%3Aloro-borici-kollosi-i-futbollit-shqiptar&catid=45%3Apersonazhe&Itemid=108
  4. http://www.giovanniarmillotta.it/albania/calcio/alba47.html