Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024
 ← Blaenorol Nesaf →
Lleoliad Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd
Cynhaliwyd 3–10 Awst 2024
Archdderwydd Mererid Hopwood

Cynhalir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024 ym Mhontypridd, Rhondda Cynon Taf, rhwng 3 - 10 Awst 2024. Hwn fydd Eisteddfod gyntaf yr Archdderwydd Mererid Hopwood.

Y Maes[golygu | golygu cod]

Yn Awst 2023 cyhoeddwyd mai Parc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd fyddai cartref yr Eisteddfod.[1] (51°36′09″N 3°20′15″W / 51.602575°N 3.337636°W / 51.602575; -3.337636)

Bydd Maes B yn cael ei gynnal ar gaeau Ysgol Uwchradd Pontypridd a bydd y maes Carafanau a gwersylla ar dir preifat rhwng Pontypridd a Glyn-coch. Mae Llwybr Tâf yn cysylltu y tri lleoliad.[2] Bydd y ganolfan groeso a swyddfa docynnau yn Llyfrgell Pontypridd a maes parcio hygyrch ym Maes Parcio Stryd y Santes Catrin. Defnyddiwyd tir Ysgol y Ddraenen Wen a Phrifysgol De Cymru, Trefforest, ar gyfer cyfleusterau Parcio a Theithio, yn ogystal â safle Parcio a Theithio presennol Abercynon.[3]

Anrhydedd[golygu | golygu cod]

Fe anrhydeddir y canlynol a'u croesawu i Orsedd y Beirdd:

Gwyrdd[golygu | golygu cod]

  • Anne England
  • Nerys Howell
  • Angharad Lee
  • Elin Llywelyn-Williams
  • Catrin Rowlands
  • Derrick Rowlands
  • Mari Morgan
  • Shân Eleri Passmore
  • Siwan Rosser
  • Peter Spriggs
  • Llinos Swain
  • Meilyr Hedd Tomos
  • Gareth Williams
  • Siân Rhiannon Williams

Glas[golygu | golygu cod]

  • Delyth Badder
  • Carol Bell
  • Jamie Bevan
  • Dafydd Trystan Davies
  • Geraint Davies
  • Michelle Davies
  • Joseff Gnagbo
  • Margot Ann Phillips Griffith
  • Gill Griffiths
  • Rosa Hunt
  • Awen Iorwerth
  • Gethin Lloyd James
  • Theresa Mgadzah Jones
  • David Lloyd-Jones
  • Ian Wyn Rees
  • Rhuanedd Richards
  • David Roberts
  • Elfed Roberts
  • Elinor Snowsill
  • Derec Stockley
  • Hazel Thomas
  • John Thomas
  • Mark Vaughan
  • Ynyr Williams

Tu allan i Gymru[golygu | golygu cod]

  • Megan Williams (glas)
  • Simon Chandler (gwyrdd)[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Pontypridd i lwyfannu Eisteddfod drefol yn 2024". BBC Cymru Fyw. 2023-08-07. Cyrchwyd 2023-08-07.
  2. "Lleoliad Eisteddfod Genedlaethol 2024 | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-03-06.
  3. "Rhyddhau cynlluniau lleoliad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024". www.rctcbc.gov.uk. Cyrchwyd 2024-03-06.
  4. "Anrhydeddau'r Orsedd 2024: Y de". BBC Cymru Fyw. 2024-05-20. Cyrchwyd 2024-05-24.