Yaren
Oddi ar Wicipedia
Ardal ar arfordir deheuol ynys Nauru yn y Cefnfor Tawel yw Yaren. Does gan yr ynys ddim prifddinas swyddogol ond lleolir y senedd, y swyddfeydd gweinyddol a'r maes awyr rhyngwladol yn Yaren. Mae gan yr ardal arwynebedd o 1.5 km2 a phoblogaeth o tua 1,100. Mae'n ffinio â Boe i'r gorllewin, Buada i'r gogledd a Meneng i'r dwyrain.