Y Sgism Fawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Y Sgism Fawr neu'r Sgism Ddwyreiniol fel y'i gelwir weithiau, oedd y rhwyg mawr (Groeg schisma) a dorrodd yr Eglwys Gatholig ('Eglwys y Gorllewin') oddi ar yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol ('Eglwys y Dwyrain').

Dechreuodd yn 857 pan ysgymunwyd Photius, Patriarch Caergystennin gan y Pab Sant Nicolas I (858 - 867). Ymatebodd y patriarch drwy herio uniongrededd Eglwys Rhufain, yn arbennig yn achos cymal yng Nghredo Nicea ynglŷn â tharddiad yr Ysbryd Glân o Grist (y cymal filioque "ac o'r Mab..").

Daeth yr anghydfod i'w uchafbwynt cyntaf yn 1054 pan ysgymunwyd y patriarch Cerularius o Gaergystennin (1043 - 1058) am iddo feirniadu gwyryfdod fynachaidd orfodol y Gorllewin a defnyddio bara heb ei godi yn yr offeren fel arferion hereticaidd. Er gwaethaf ymgeision i gymodi yn Ail Gyngor Lyons yn 1274 a Chyngor Fflorens yn 1439, daeth y rhwyg terfynol yn 1472. Un ffactor a arweiniodd at y rhwyg terfynol oedd ymddygiad y Croesgadwyr yn ymosod ar Gristnogion ac eglwysi uniongred yn Asia Leiaf a'r Lefant, gan gynnwys ymosod ar Gaergystennin ei hun a'i dal (1204 - 1261).