Y Brenin Bysgotwr

Oddi ar Wicipedia
Darluniad o'r Brenin Bysgotwr yn croesawu Perceval i'w gastell, mewn llawysgrif o 1330 o'r rhamant Perceval ou Le Conte du Graal gan Chrétien de Troyes.

Cymeriad Arthuraidd ym mytholeg y Greal Santaidd yw'r Brenin Bysgotwr. Brenin clwyfedig ydyw sy'n eistedd yn ei gwch yn pysgota tra bo'i deyrnas ar drengi. Cedwir y Greal yn ei gastell, a chaiff y Brenin Bysgotwr ei iachau pan ofynnir y cwestiwn cywir amdano'r Greal.

Darluniad gan Lancelot Speed o'r Anfad Ergyd, yn y llyfr The Legends of King Arthur and His Knights gan Syr James Knowles (1912).

Dywed i'r brenin ymosod ar farchogwr dieithr, ac yn yr ymryson cafodd ei glwyfo yn ei arffed gan waywffon y dieithryn. Yn ôl chwedlau eraill, ei frawd, Balin, oedd yr un i daro'r Anfad Ergyd i gesail ei forddwyd. O ganlyniad, trodd tir y deyrnas yn ddiffrwyth. Ar flaen y ffon, a gafodd ei wthio'n sownd yn nghnawd y brenin, mae'r geiriau "Y Greal". Cedwir y brenin yn fyw gan faen hudol, ond mae efe a'i deyrnas yn parhau i ddioddef poen yr anaf nes bod rhywun yn gofyn iddo'r cwestiwn i waredu'r felltith.

Ymddengys y Brenin Bysgotwr gan amlaf yn chwedlau'r marchog Perceval, yr hwn sy'n cwrdd â'r brenin ond nid yw'n gofyn y cwestiwn a fyddai wedi ei iachau. Pan ddaw i wybod am hyn, mae'n ymdynghedu i gael hyd i gastell y Greal. Mewn ambell testun, Alain le Gros (Alan Evrawg) yw tad Perceval, sy'n dwyn yr enw Brenin Bysgotwr am iddo fwydo'r dorf gydag un pysgodyn yn unig, trwy wyrth yn debyg i'r Iesu. Cododd gastell Corbenic i fod yn gartref i'r Greal Santaidd. Ymhlith ei enwau eraill mae Anfortas, Alain, Bron, Pelles, a Rothniam.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Patricia Monaghan, The Encyclopedia of Celtic Mythology and Folklore (Efrog Newydd: Facts On File, 2004), t. 196.