Wookey Hole

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y fynedfa i Wookey Hole

Pentref a safle archaeolegol enwog yng Ngwlad yr Haf yw Wookey Hole. Fe'i lleolir ger Wells ym Mryniau Mendip, yn ne-orllewin Lloegr, heb fod ymhell o Geunant Cheddar.

Mae darganfyddiadau o esgyrn pobl ac anifeiliaid o'r cyfnod paleolithig a wnaed yn ogof Wookey Hole yn dangos iddo gael ei presrwylio o bryd i'w gilydd am gyfnod o tua 50,000 o flynyddoedd. Darganfuwyd nifer o offer callestr yno yn ogystal.

Erbyn heddiw mae'r ogofau yn atyniad twristaidd poblogaidd.