Wicipedia:Wici Addysg
Hafan Datblygu | Cynllun Datblygu | Digwyddiadau | Cyhoeddusrwydd | Wici GLAM | Wici Addysg | Wici Cymru | Man Trafod |
Hyfforddiant sgiliau wici ym Mhrifysgol Abertawe[golygu cod]Ar yr 28ain o Ionawr 2015 cafwyd sesiwn drwy'r dydd o tua 40 o fyfyrwyr a staff yr adran hanes yn dysgu sut i olygu Wicipedia. Ceir manylion llawn yn Gymraeg yma ac ar wefan Wicimedia UK yn fan yma.
Y Coleg Cymraeg[golygu cod]Ym Mehefin 2013 cytunodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn egwyddor (diolch i'w Prif Weithredwr blaenllaw Ioan Matthews) i roi rhai o'u cyhoeddiadau (testun, delweddau, sain a ffilm) ar drwydded agored Comin Creu. Ar yr 21ain o Ionawr 2014 hysbysebodd y Coleg swydd Cydlynydd Wicipedia ar eu gwefan a phenodwyd Marc Haynes. Dyma grynodeb o'r swydd o'u safle:
Cafwyd partneriaeth hynod o ffrwythlon ac maecynnwys y Wicipedia yn gyfoethocach o'r herwydd. Ceir cofnod o waith Marc dros y chwe mis yma: Wicipedia:Wici Addysg/Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Daeth tymor Marc yn y Coleg i ben, a bydd adroddiad llawn yn dilyn cyn hir. Bu'n dymor llwyddiannus iawn a chafwyd cydweithrediad arbennig gan y Coleg, a llawer o waith wedi'u uwchlwytho i Wicipedia. Hyfforddi[golygu cod]Cydlynydd Wicimedia Cymru[golygu cod]Penodwyd Aled Powel yn Brif Hyfforddwr Wicimedia yng Nghymru yn Haf 2014 a chafwyd nifer o gyrsiau ledled Cymru. Yn ychwanegol at hyn, hyfforddwyd 11 o hyfforddwyr 'Cynghrair Meddalwedd Cymru' - sy'n parhau i gynnig cyrsiau sgiliau Wicipedia; efallai mai dyma'r tro cyntaf i gorff hyfforddi proffesiynol ymgymryd â'r gwaith hwn, yn hytrach na Wicipedwyr, fel sy'n arferol. Hyfforddi'r Hyfforddwyr[golygu cod]Cynhaliodd WMUK gwrs hyfforddi'r hyfforddwyr yng Nghaerdydd ar 1 - 2 o Chwefror 2014. Roedd y cwrs ar gyfer aelodau Wikimedia UK a allai ymrwymo'u hunain i hyfforddi ar gyrsiau eraill ar unrhyw un o brosiectau Wikimedia ee Comin, Wicieiriadur neu Wicipedia. Mae'r canlynol wedi cwbwlhau'r cwrs 'Hyfforddi'r Hyfforddwyr' gan WMUK: Syniadau pellach[golygu cod]
Llyfrynnau[golygu cod]Fel rhan o'n hymgyrch i ddatblygu'r Wicipedia Cymraeg, mae'r llawlyfrau canlynol wedi'u hargraffu (neu ar y gweill) ac ar gael arlein neu o'n swyddfeydd yng Nghymru neu Lundain: Wedi eu cyhoeddi[golygu cod]
Yn y wasg[golygu cod]Prawf-ddarllenwch os gwelwch yn dda:[golygu cod]
Gadewch eich sylwadau ar dudalen Sgwrs y llyfryn, os gwelwch yn dda. Wedi eu cyfieithu a heb eu prawfddarllen[golygu cod]Awgrymiadau o lyfrynnau[golygu cod]Ydy'r deunydd canlynol yn werth ei gyfieithu: [[1]]? Unrhyw awgrym pellach? |