West Midlands Trains

Oddi ar Wicipedia

Mae West Midlands Trains (WMT), sy'n gweithredu o dan yr enwau masnach West Midlands Railway (WMR) (ar gyfer gwasanaethau yn rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr yn unig) a London Northwestern Railway (LNWR) (ar gyfer gwasanaethau sy'n rhedeg y tu allan i'r rhanbarth ar unrhyw adeg), yn gwmni gweithredu trenau yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu trenau teithwyr ar fasnachfraint Gorllewin Canolbarth Lloegr rhwng Llundain a gorsafoedd yng Nghanolbarth Lloegr. Mae'n eiddo i gonsortiwm o dri chwmni: Abellio, JR East a Mitsui.