Waterdeep

Oddi ar Wicipedia

Dinas fawr ym myd ffantasi Y Teyrnasoedd Angof yw Waterdeep neu "Dyfrdwfn" . Mae'n rhan o'r gêm chware-rôl boblogaidd Dungeons & Dragons. Fe'i lleolir ar Arfordir y Cleddyfau, yng Ngorllewin yr îs-gyfandir Faerûn. Mae Dyfrdwfn yn sefyll ar ddaeardy enfawr sy'n cael ei enwi Undermountain, neu "Danfynydd". Caiff y ddinas ei hadnabod hefyd fel City of Splendors a Waterdeep yw un o'r dinasoedd fwyaf a phrysuraf. Bodau dynol yw'r mwyafrif o'i phoblogaeth, er bod hiliau eraill yn byw yno hefyd.

Eginyn erthygl sydd uchod am gêm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.