Wasiristan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map sy'n dangos lleoliad Wasiristan
Uned o'r Ffiwsilwyr Gorkhaidd yn Wasiristan yn 1923

Mae talaith Wasiristan (neu Waziristan) yn Diriogaeth Lwythol sy'n gorwedd rhwng Khyber Pakhtunkhwa a Balochistan yng ngorllewin Pacistan, ar y ffin ag Affganistan. Mae'r prif drefi yn cynnwys Miram Shah, Razmak a Wana, ond mae'r rhan fwyaf o'r Wasiriaid yn byw mewn pentrefi bychain yn y bryniau. Mae'r mwyafrif llethol o'r trigolion yn Wasiriaid, un o lwythi Pathan (adweinir hefyd fel Pashtun) y Ffin. Maent yn bobl falch ac annibynnol ac wedi ymladd i gadw eu hannibyniaeth yn y gorffennol, er enghraifft yn erbyn lluoedd Indiaidd Prydain yn y 1930au.

Mae Wasiristan yn ardal fynyddog, rhyw 11,585 cilomedr (4,473 milltir) sgwâr yng Ngogledd-Orllewin Pacistan, yn ffinio ar Affganistan. Mae'r Llinell Durand yn rhedeg rhwng Wasiristan ac Affganistan. Crewyd y llinnell ym 1893 gan Mortimer Durand (ysgrifennydd tramor India Prydeinig) a'r Affgan Amir Abdur Rahman Khan, i denodi eu cylchoedd dylanwad. Poblogir yr ardal – a'r ddwy ochr Llinnell Durand - gan y Pashtun, a siaradir yr iaith Pashto/Pakhto. Mae'n rhan o'r Ardaloedd Llwythol Gweinyddedig yn Ffederal, ystyriedwyd y tu allan o bedair dalaith yr wlad. Roedd hi'n ardal llwythol annibynol hyd at 1893, tu allan yr Ymerodraeth Brydeinig, ac oedd ymosodiadau llwythol yn broblem i'r Prydeinwyr, yn arwain at gyrchoedd cosbol rhwng 1860 a 1945. Daeth yr ardal yn rhan o Bacistan ym 1947. Dros y canrifoedd, mae rhyfeloedd yn Affganistan efo Prydain, India Prydeinig, Rwsia ac yr Unol Daleithiau, wedi effeithio'r Pashtun dros y ffin yn Wasiristan.

Rhannir Wasiristan yn Ogledd Wasiristan a De Wasiristan, efo phoblogaethau (ym 1998) o 361,246 a 429,841. Mae gan y ddau ran o'r llwyth Wasir nodweddiadau gwahanol, ond siarad yr un iaith.

Yn gymdeithasol ac yn grefyddol, mae Wasiristan yn lle ceidwadol.

Gogledd Wasiristan[golygu]

Miranshah yw prif gomuned Gogledd Wasiristan. Poblogir yr ardal gan y Darwesh Khel (neu Wasiriaid Utmanzai) sydd yn perthyn i Wasiriaid Ahmedzai o De Wasiristan. Is-lwyth y llwyth Wasiri ydynt, ac yn byw mewn pentrefi caerog, yn cynnwys Razmak, Datta Khel, Spin wam, Dosali,Shawa, Shawal ac y Dawars, sydd yn ffermio'r dyffrynoedd isod, ym mhentrefi megis Miranshah, Darpa Khel, Amzoni, Ali Khel, Mirali, Edak, Hurmaz,mussaki, Hassu Khel, Ziraki, Tapi, Issori, Haider Khel, Khaddi ac Arabkot.

De Wasiristan[golygu]

Pencadlys yr Asiantaeth De Wasiristan yw Wana. Maint yr ardal yw 6,500 cilomedr (2.500 milltir) sgwâr square kilometres (2,500 sq mi). Llywodraethir De Wasiristan yn aniongyrchol gan asiant gwleidyddol yn hytrach na Lywodraeth Pakistan, yn dilyn drefn y Raj Prydeinig. Mae yn De Wasiristan tri llwyth; Wazir, Mahsud a Burki.

Hanes[golygu]

Daeth yr ardal yn rhan yr ymerodraeth Persiaidd cyn 500 c.c, a daeth Alexander Fawr tua 330 c.c. Daeth Islam y'r ardal yn y saithfed ganrif o.c.

Gwrthryfel Wasiristan (1919–1920)[golygu]

Dechreuwyd y gwrthryfel gan oresgyniad Affgan i India Prydeinig ym 1919. Er cymodwyd Prydain efo'r Affganis, achosodd y Wasiri a Mahsud problemau mawr i'r milwyr (y mwyafrif ohonynt yn Indiaidd). Roedd rhai o'r llwythddynion yn gyn-aelodau o lueodd afreolaidd y fyddin India, ac yn piau reifflau Lee-Enfield modern. Roedd yn wrthryfel arall, un llai. rhwng 1936 a 1936

Daearyddiaeth[golygu]

Mae'r ardal yn un gymhleth o bryniau ac esgeiriau. Mae'r tirwedd yn codi'n raddol o dde-ddwyrain i ogledd-orllewin. Mynydd Preghal, ar ffin gorllewinol, yw pwynt uchaf, 3,515 medr o ucheldir. Fel arfer, mae afonydd yn llifo o orllewin i de. Yr afonydd mwyaf yw Afon Gomal ac Afon Tank Zam. Afonydd eraill yw afonydd Khaisora, Shaktu, Splitoi, Wana Toi, Shuza, Shinkai a Shahur. Mae llifogydd yn debyg yn ystod Gorffennaf ac Awst, oherwydd glaw trwm, yn rhwystro trafnidigaeth.

Amaethyddiaeth[golygu]

Prif gnydau Wasiristan yw gwenith, barlys, corn, reis a chansenni siwgwr. Cynydau eraill yw nionod, melonau, tatws, tomatos, sinsir, bricyll, afalau, cnau ffrengig, eirin, persimonau, pomgranadau, gellyg, eirin gwlanog, grawnwin, dêts, figys, orennau a bananas. Cedwir ceffylau a defaid, ac mae cig dafad a reis yn boblogaedd; gwneuthir bara efo gwenith neu corn.

Gwefan Hanes Wasiristan

Gwefan Bryniau Wasiristan