Victor Frankenstein

Oddi ar Wicipedia
Victor Frankenstein
Enghraifft o'r canlynolcymeriad llenyddol, cymeriad ffilm, bod dynol ffuglennol Edit this on Wikidata
CrëwrMary Shelley Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae'r erthygl hon yn sôn am gymeriad yn y nofel gan Mary Shelley. Am ddefnyddiau eraill o'r enw Frankenstein, gweler Frankenstein (gwahaniaethu).

Y prif gymeriad yn nofel o 1818, Frankenstein, or The Modern Prometheus gan Mary Shelley, yw Victor Frankenstein. Mae'n wyddonydd sydd, ar ôl astudio prosesau cemegol a dadfeiliad pethau byw, yn dod o hyd i ffordd i greu bod byw. Mae teitl Shelley yn ei gymharu â'r cymeriad mytholegol Promethëws, a luniodd fodau allan o glai a rhoi tân iddynt. Mae Victor yn creu creadur (a elwir yn aml yn Anghenfil Frankenstein, neu'n syml "Frankenstein")ond mae'n difaru ymyrryd â natur a thrwy hynny beryglu ei fywyd ei hun a bywydau ei deulu a'i ffrindiau pan fydd y creadur yn ceisio dial yn ei erbyn. Fe’i cyflwynir gyntaf yn y nofel wrth iddo geisio dal yr anghenfil yn yr Arctig ac fe'i hachubir rhag marwolaeth gan morwyr.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]