Vernon Pelling Elliott

Oddi ar Wicipedia
Vernon Pelling Elliott
Ganwyd27 Gorffennaf 1912 Edit this on Wikidata
Bu farw12 Hydref 1996 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaetharweinydd, cyfansoddwr Edit this on Wikidata

Roedd Vernon Pelling Elliott yn faswnydd, cyfansoddwr ac arweinydd, ganwyd ar 27 gorffennaf 1912. Roedd o’n aelod gwreiddiol y Gerddorfa Symphonia, aelod o Grŵp Opera Saesneg Benjamin Britten, arweinydd y Gerddorfa Ffilharmonic Frenhinol ac yn athro yng Ngholeg Cerddoriaeth y Trindod, Llundain.

Gofynnwyd iddo cynorthwyo Oliver Postgate gan gyfansoddi thema baswn ar gyfer Ivor the Engine ym 1959, ac aeth ymlaen i cyfansoddi ar gyfer Noggin the Nog, The Seal of Neptune, Pogles' Wood, Pingwings a’r Clangers. Rhyddhawyd albwm o’i waith ar gyfer Y Clangers gan Recordiadau Trunk yn 2001, ac un am ei waith ar Ivor the Engine a Pogles' Wood yn 2007.[1]

Bu farw ar 12 Hydref 1996.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]