Uwchben y Drefn (albwm)

Oddi ar Wicipedia
Uwchben y Drefn
Clawr Uwchben y Drefn
Albwm stiwdio gan Sibrydion
Rhyddhawyd Gorffennaf 2011
Label JigCal

Trydydd albwm y grŵp Cymraeg Sibrydion yw Uwchben y Drefn. Rhyddhawyd yr albwm yng Ngorffennaf 2011 ar y label JigCal.

Mae 13 o ganeuon ar yr albwm, yn cynnwys ‘Dros y Byd i Gyd’, ‘Dawns y Dwpis’ a ‘Cadw’r Blaidd o’r Drws’.

Dewiswyd Uwchben y Drefn yn un o ddeg albwm gorau 2011 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth[golygu | golygu cod]

...un funud fe fyddwch chi’n meddwl eich bod chi’n Sbaen neu Giwba, a’r munud nesa fe fyddwch chi wedi eich chwyrlio i mewn i fyd cartŵn honky-tonky gwallgof.

—Casia Wiliam, Y Selar

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]