Uchafswm un rep

Oddi ar Wicipedia

Ym myd hyfforddi gyda phwysau, cyfeiria uchafswm un rep at yr uchafswm o bwysau gall berson godi unwaith yn unig ar gyfer ymarfer penodol. Gellir defnyddio uchafswm un rep i benderfynu ar uchafswm cryfder unigolyn a dyma'r modd y penderfynir ar enillwyr mewn cystadlaethau fel codi pŵer a chodi pwysau. Gellir defnyddio'r uchafswm un rep hefyd fel cyfyngiad uchaf, er mwyn pennu y "llwyth" sydd ei angen ar gyfer ymarfer (fel canran o'r uchafswm un rep.