Trypanosomiasis Affricanaidd

Oddi ar Wicipedia
Trypanosomiasis Affricanaidd
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd cysgu, neglected tropical disease, endemic disease, vector-borne disease, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolAfiechydon heintiol edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Trypanosomiasis Affricanaidd, neu glefyd cysgu, yw clefyd parasitig sy'n cael ei gludo gan bryfed ac mae'n effeithio pobl ac anifeiliaid eraill. Fe'i hachosir gan brotosoa o'r rhywogaeth Trypanosoma brucei. Ceir ddau fath gwahanol sy'n effeithio pobl, Trypanosoma brucei gambiense (TbG) a Trypanosoma brucei rhodesiense (TbR). Mae TBG yn achosi dros 98% o achosion hysbys. Trosglwyddir y ddau fel arfer gan frathiadau pryfed tsetse heintus ac maent fwyaf cyffredin mewn ardaloedd gwledig.[1]

I gychwyn, yng nghyfnodau cynnar yr afiechyd, profa rhywun twymynau, cur pen, teimlad o gosi, a phoenau yn y cymalau. Daw symptomau felly i'r golwg rhwng un i dair wythnos wedi'r brathiad. Wedi i gyfnod o wythnosau i fisoedd fynd heibio dechreua'r ail gyfres o symptomau wrth i'r dioddefwr teimlo'n ddryslyd, cael trafferthion wrth gydsymud, dideimladrwydd a thrafferthion cysgu. Gwneir diagnosis drwy ddarganfod paraseit mewn rhwbiad o waed neu mewn hylif o nôd lymff. Yn aml, mae angen cynnal pigiadau yn y lwynau er mwyn gwahaniaethu rhwng y bennod gyntaf a'r ail bennod o'r clefyd.

Byddai atal clefydau difrifol yn golygu sgrinio'r boblogaeth sydd mewn perygl â phrofion gwaed ar gyfer TbG. Mae'n haws trin y clefyd pan gaiff ei ganfod yn gynnar a chyn y daw symptomau niwrolegol i'r golwg. Gellir trin pennod gyntaf y clefyd gyda'r meddyginiaethau pentamidin neu suramin. Wrth geisio gwella'r ail bennod gellir cymryd eflornithin neu gyfuniad o nifurtimox ac eflornithine ar gyfer TbG. Er bod melarsoprol yn gweithio ar gyfer y ddwy bennod, fe'i defnyddir yn unig ar gyfer TbR, oherwydd gall arwain at sgil effeithiau difrifol. Heb driniaeth y mae dioddefwr yn debygol o farw o'r cyflwr.[2]

Mae'r afiechyd yn cael ei basio'n rheolaidd mewn rhai rhanbarthau o Affrica Is-Sahara a cheir poblogaeth o oddeutu 70 miliwn mewn peryg mewn 36 o wledydd gwahanol. Ar hyn o bryd y mae 11,000 o bobl wedi'u heintio a daeth 2,800 o heintiau newydd i'r golwg yn 2015. Yn 2015 achosodd y clefyd oddeutu 3,500 o farwolaethau, i lawr o 34,000 yn 1990. Mae dros 80% o'r achosion uchod wedi eu cofrestru yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. O fewn hanes diweddar, gellir adnabod tri ffrwydrad sylweddol o'r clefyd: un o 1896 i 1906 yn bennaf yn Wganda a Basn y Congo a dau yn 1920 a 1970 mewn amryw o wledydd Affricanaidd. Fe'i hystyrir fel clefyd trofannol sydd wedi'i esgeuluso. Gall anifeiliaid megis gwartheg gario'r clefyd a chael eu heintio, ac yn achosion felly, fe'i gelwir yn trypanosomiasis anifeiliaid.


Cyfieiriadau[golygu | golygu cod]

  1. WHO Media centre (March 2014). "Fact sheet N°259: Trypanosomiasis, Human African (sleeping sickness)". World Health Organization. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 April 2014. http://www.who.int/mediacentre/factsheets/fs259/en/. Adalwyd 25 April 2014.
  2. Kennedy, PG (Feb 2013). "Clinical features, diagnosis, and treatment of human African trypanosomiasis (sleeping sickness).". Lancet Neurology 12 (2): 186–94. doi:10.1016/S1474-4422(12)70296-X. PMID 23260189.