Trichotillomania

Oddi ar Wicipedia
Trichotillomania
Enghraifft o'r canlynolclefyd prin, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
MathAnhwylder rheoli ergyd, body-focused repetitive behavior disorders, anhwylder genetig, traction alopecia, clefyd Edit this on Wikidata
Enw brodoroltrichotillomanie Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyflwr lle mae person yn teimlo’r angen i dynnu eu gwallt yw trichotillomania. Efallai byddant yn tynnu’r gwallt ar eu pen neu mewn llefydd eraill, megis eu haeliau neu blew eu hamrannau.

Anhwylder cymhelliad-rheolaeth yw trichotillomania, cyflwr seicolegol lle nad yw’r person yn gallu atal eu hunain rhag gwneud rhywbeth penodol. Byddant yn profi awydd cryf i dynnu eu gwallt a thensiwn cynyddol tan eu bod yn gwneud hynny. Ar ôl tynnu’r gwallt, byddant yn profi ymdeimlad o ryddhad. Mae tynnu gwallt o’r pen yn gadael rhannau moel.

Gall trichotillomania achosi teimladau negyddol, megis euogrwydd. Gall y person hefyd deimlo cywilydd am dynnu eu gwallt, ac efallai byddant yn ceisio ei wadu neu ei guddio. Ambell waith gall trichotillomania wneud i’r person deimlo’n salw a gall hyn arwain at hunan-barch isel.

Achosion[golygu | golygu cod]

Nid yw’r hyn sy’n achosi trichotillomania yn wyddys, ond mae nifer o theorïau’n bodoli. Mae rhai arbenigwyr yn credu bod tynnu gwallt yn fath o ddibyniaeth. Po fwyaf rydych yn tynnu’ch gwallt, po fwyaf y byddwch am barhau i’w wneud. Gall trichotillomania fod yn adlewyrchiad o broblem iechyd meddwl. Mae theorïau seicolegol ac ymddygiadol yn awgrymu y gall tynnu gwallt fod yn ffordd o ryddhau straen neu bryder. Gan fod trichotillomania’n ymwneud ag ymddygiad cymhellol, mae rhai arbenigwyr yn credu ei fod yn berthyn i Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD). Mewn rhai achosion, gall trichotillomania fod yn ffordd o hunan-niweidio, lle mae’r person yn anafu eu hunain yn fwriadol fel ffordd o gael rhyddhad dros dro rhag anawsterau emosiynol.

Diagnosis[golygu | golygu cod]

Dyma rhai o’r meini prawf isod i wneud diagnosis:

  • Rydych yn tynnu’ch gwallt dro ar ôl tro
  • Rydych yn teimlo tensiwn cynyddol cyn ichi dynnu’ch gwallt
  • Rydych yn teimlo rhyddhad neu bleser pan rydych wedi tynnu’ch gwallt
  • Nid oes unrhyw gyflwr meddygol sy’n gwneud i chi dynnu’ch gwallt, megis cyflwr ar y croen
  • Mae tynnu’ch gwallt yn achosi anawsterau i chi neu’n effeithio ar eich bywyd dyddiol – er enghraifft, eich perthnasau neu’r gwaith.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Trichotillomania ar wefan , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall