Trampolinio

Oddi ar Wicipedia
Trampolinio
Enghraifft o'r canlynoldisgyblaeth chwaraeon, chwaraeon olympaidd Edit this on Wikidata
MathGymnasteg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mabolgamp gymnastaidd sy'n defnyddio trampolîn yw trampolinio.[1] Mae cystadleuaeth yn cynnwys un symudiad gorfodol ac un symudiad dewisol, a'r enillwyr yn perfformio symudiad dewisol arall. Ceir cyffwrdd â'r trampolîn dim ond 10 gwaith mewn symudiad. Caiff cystadleuwyr eu sgorio ar sail anhawster, perfformiad, a ffurf.[2]

Jason Burnett yn trampolinio ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Canada yn 2008

Hanes[golygu | golygu cod]

Dechreuodd y fabolgamp fodern ym 1936 gan yr Americanwr George Nissen. Bu'r gystadleuaeth answyddogol gyntaf yn yr Unol Daleithiau ym 1947, a'r pencampwriaethau swyddogol cyntaf ym 1954. Daeth yn un o chwaraeon y Gemau Holl-Americanaidd ym 1955. Bu'r gystadleuaeth agored ryngwladol gyntaf yng Ngorllewin yr Almaen ym 1962, a'r bencampwriaeth ryngwladol gyntaf yn Lloegr ym 1964. Sefydlwyd y Gymdeithas Drampolîn Ryngwladol yn sgil y bencampwriaeth honno. Daeth trampolinio yn un o'r chwaraeon Olympaidd yn 2000.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, [trampolining].
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) trampoline. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Mehefin 2014.