Titrad
Dull cyffredin labordy o gyfrifo crynodiad hydoddiannau yw titrad.
Cynnwys |
Enghraifft o ditrad [golygu]
Mae'r titrad hwn rhwng asid ac alcali. Dyma enghraifft o arbrawf i ddarganfod crynodiad asid hydroclorig HCl(d) sy'n anhysbys gan ddefnyddio hydoddiant safonol o sodiwm carbonad sydd â chrynodiad hysbys.
Mas atomig cymharol Na2CO3 = 284
Creu Hydoddiant Safonol [golygu]
- Hydoddiant safonol yw hydoddiant gyda chrynodiad hysbys. Yn yr arbrawf hon paratöir hydoddiant safonol o sodiwm carbonad.
- Pwysir 1.35g o sodiwm carbonad yn fanwl mewn bicer.
- Ychwanegir ychydig o ddŵr distyll i hydoddi'r sodiwm carbonad ac fe'i cymysgir efo rhoden wydr.
- Rhoddir yr hydoddiant i mewn i fflasg safonol ac ychwanegir dŵr distyll iddo nes cyrraedd 250cm².
- Fe'i ysgwydir i sicrhau fod yr hydoddiant yn un homogenaidd sef hyddoddiant gyda chrynodiad cyson trwy'r fflasg gyfan.
Y titrad [golygu]
- Mesurir 25cm³ o'r hydoddiant safonol gan ddefnyddio piped ac fe'i ychwanegir i fflasg gonigol.
- Ychwanegir y dangosydd methyl oren iddo a fe dröith yr hydoddiant yn felyn.
- Rhoddir yr asid hydroclorig yn y bwred gan ddefnyddio twndis. Llenwir y bwred nes cyrraedd 0.00cm³ ar y menisgws.
- Agorir y tap er mwyn i'r asid niwtralu'r hydoddiant sodiwm carbonad.
- Newidith liw'r hydodiant o felyn i binc ar y diweddbwynt. Dyma'r pwynt niwtraliad a dyma'r darlleniad cyntaf wrth y bwred.
- Fe wnëir y titrad tair gwaith i sicrhau fod darlleniadau'r bwred o fewn 0.25cm³ o'i gilydd.
Canlyniadau [golygu]
Dyma ddarlleniadau'r hydoddiant sodiwm carbonad a ychwanegwyd o'r bwred.
Titr 1: 26.75cm³
Titr 2: 26.80cm³
Titr 3: 27.00cm³
Titr Cyfartalog: 26.85cm³
Y Cyfrifion [golygu]
1. Mae'n rhaid cyfrifo crynodiad y sodiwm carbonad (mewn mol/dm³). Yn gyntaf mae'n rhaid dod o hyd i nifer y molau gan ddefnyddio'r fformiwla:
lle:
Mas yw pwysau'r sodiwm carbonad solid mewn gramiau.
Mr yw mas atomig cymharol sodiwm carbonad.
=0.004753521 rhaid lluosi â 4 oherwydd dyma grynodiad 250cm³ ac felly mae'n rhaid i'r ateb fod mewn dm³ (sef 1000cm³)
=0.0190140851mol/dm³
2. Yn nesaf fe ddefnyddir y canlyniadau i ddarganfod crynodiad yr asid hydroclorig.
3. Darganfyddwyd taw gwerth y molau yw 2 ac 1 o'r hafaliad symbol.
4. Rhaid aildrefnu'r fformiwla i gael crynodiad yr asid yn destun.
Felly, crynodiad yr asid = 0.03808 mol/dm3.





