Timimoun

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Adfeilion ksar Timimoun.
Gwerddon Timimoun.

Tref a gwerddon yn ne Algeria yw Timimoun (Arabeg: تميمون‎), yn Nhalaith Adrar, rhanbarth Gourara. Fe'i lleolir yn y Sahara ar ymyl llwyfandir Tadmaït, uwchben y Sebkha.

Ceir gwerddon ffrwythlon yno a hen gastell (ksar). Nodweddir Timimoun gan liw ocr coch ei hadeiladau traddodiadol.

Gwasanaethir y dref a'r ardal gan Faes Awyr Timimoun.

Dolenni allanol[golygu]

Flag of Algeria.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Algeria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.