Tilburg
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn nhalaith Noord-Brabant yn rhan ddeheuol yr Iseldiroedd yw Tilburg . Gyda phoblogaeth o 201,259 yn 2007, Tilburg yw chweched dinas yr Iseldiroedd yn ôl poblogaeth, ac ail ddinas Noord-Brabant, ar ôl Eindhoven.
Ceir y sôn cyntaf am Tilburg yn y 14eg ganrif, pan oedd yn arglwyddiaeth. Yn y ganrif ddilynol, adeiladodd Jan van Haestrecht, arglwydd Tilburg, gastell yno. Yn y 19eg ganrif, roedd Wiliam II, brenin yr Iseldiroedd (1792-1849) yn arbennig o hoff o Tilburg, ac adeiladodd balas yno. Bu'r diwydiant gwlân yn bwysig iawn yma hyd at y 1960au.