Tikrit

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hofrenydd Black Hawk Americanaidd yn hedfan dros Tikrit (Ebrill 2004).

Mae Tikrit yn ddinas yng ngorllewin canolbarth Irac ac yn brifddinas y dalaith o'r un enw.

Cafodd Saddam Hussein, arlywydd Irac hyd 2003, ei eni yn Tikrit. Mae'r ddinas yn gadarnle i'r Blaid Ba'ath ac yn gartref i sawl aelod o dylwyth Saddam Hussein. Mae'r rhan fwyaf o'r trigolion yn Fwslemiaid Sunni neu'n Gristnogion. Ganed yr arweinydd Islamaidd o'r 12fed ganrif, Saladin, yma hefyd.

Flag of Iraq.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Irac. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.