Y Tebot Piws

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tebot Piws)

Y Tebot Piws oedd un o grwpiau cyntaf Pop Cymraeg, yn y 1970au cynnar, cyfnod pryd yr oedd yn datblygu o sŵn gwerinol at rhywbeth mwy agos at yr hyn a glywir heddiw. Roedd y Tebot Piws yn nodweddiadol o'r tueddiad hwnnw, gyda digrifwch ac elfen chwareus yn rhan allweddol o'u perfformiad.

Aelodau[golygu | golygu cod]

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Rhyddhawyd 4 EP gan y Tebot Piws:

  • Y Tebot Piws (Recordiau'r Dryw, 1969)
Yr Hogyn Pren
Dan Ddwr Oer Y Llyn
Llanfihangel
Marwnad Llon Wili John
Tebot Piws
Blaenau Ffestiniog
Lleucu Llwyd
Tyrd i Ffwrdd
O Arglwydd Mae'n Uffern yn y Pwll
Godro'r Fuwch
Rhywun wedi Dwyn fy Nhrwyn
  • Rhywun wedi Dwyn fy Nhrwyn (Sain 19, 1971)
Mae Rhywun Wedi Dwyn Fy Nhrwyn
Nwy Yn Y Nen (Breuddwyd)
Helo Dymbo
Ie Ie Ie 'na Fe
Byrmingham
D'yn ni Ddim Yn Mynd i Byrmingham
Dilyn Colomen
Mae Gen i Gariad
I Ble Rwyt Ti'n Myned

Ym 1994, rhyddhad Recordiau Sain CD a chasét Y Gore a'r Gwaetha gan y Tebot Piws. Hwn oedd yn llythrenol y gorau a'r gwaethaf achos cynhwysywd y cyfan o'r EPs uchod ynghŷd â "Gweddillion o waelod y Tebot" sef manion oedd wedi eu cadw ar dâp ond heb gyrraedd y recordiau.

Y Gore A'r Gwaetha

Ail-ffurfiodd y Tebot Piws i berfformio yng Ngŵyl y Faenol yn 2002. I ddathlu deugain mlynedd ers ffurfio'r band, rhyddhawyd albwm newydd yn 2008, wedi'i recordio yn Stiwdio Bryn Derwen ym Methesda a'i gynhyrchu gan y canwr Bryn Fôn a'i lansio ar ei label LabelAbel.[1]

Clipiau o ganeuon[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]