Alun 'Sbardun' Huws

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Alun 'Sbardyn' Huws)
Alun 'Sbardun' Huws
Ganwyd26 Medi 1948 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Bu farw15 Rhagfyr 2014 Edit this on Wikidata
Ysbyty Athrofaol Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerddor, cyfansoddwr Edit this on Wikidata

Cerddor a chyfansoddwr rhai o'r caneuon pop mwyaf adnabyddus a phoblogaidd yn y Gymraeg oedd Alun 'Sbardun' Huws (26 Medi 194815 Rhagfyr 2014).[1] Yn wreiddol o Benrhyndeudraeth, treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yng Nghaerdydd a'r Barri. Roedd yn aelod gwreiddiol o'r Tebot Piws a ffurfiwyd yn 1968[2] ac yn aelod achlysurol o Ac Eraill, Edward H Dafis a Mynediad am Ddim.[3] Roedd yn un o'r tîm a oedd yn gyfrifol am y cynhyrchiad gwreiddiol o'r opera roc Nia Ben Aur. Bu'n gyfarwyddwr teledu gydag adran newyddion y BBC, yn ogystal â nifer o swyddi eraill am fwy na degawd cyn ymddeol.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Athrawes oedd ei fam a gweithiwr yn y ffatri gwneud ffrwydron Cookes Explosives Ltd oedd ei dad. Cychwynodd e a'i frawd grŵp sgiffl o'r enw Y Rebels ym Mhenrhyndeudraeth cyn mynd i astudio Celf yng Nghaerdydd. Roedd ganddo frawd iau: John Wyn Hughes.

Bu Alun yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Penrhyndeudraeth (1953 i 1959) ac yna yn Ysgol Ardudwy, Harlech o 1959 i 1967. Wedi gadael yr ysgol symudodd i Gaerdydd i astudio yng Ngholeg Celf Caerdydd (1967-8), cyn mynd i Goleg Addysg Cyncoed am dair blynedd i hyfforddi fel athro. Wedi gadael y coleg gweithiodd fel ymchwilydd, cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu i gwmni HTV ac yna'r BBC.

Ar 29 Mai 1978 priododd Gwenno Peris Jones.

Y Tebot Piws[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y Tebot Piws yn 1968, ac wedi iddynt ennill cystadleuaeth dalent yn y Fflint cafwyd perfformiad ar y rhaglen deledu Disc a Dawn (BBC). Roedd yr aelodaeth wreiddiol yn cynnwys Alun Huws, y lleisydd 'Stan' Morgan Jones ac Emyr Huws Jones ar y gitâr a'r mandolin. Yn ddiweddarach ymunodd y gitarydd a'r lleisydd cellweirus Dewi Pws.

Recordiwyd eu record gyntaf mewn tŷ yn Wallasey, Lerpwl, a hynny mewn un bore - gyda bachgen lleol ar y drymiau ac un arall ar y bâs dwbl. Sbardun gyfansoddodd y gân agoriadol: 'Yr Hogyn Pren', ar y cyd gydag Emyr Huws Jones. Yn 2002 daeth y Tebot yn ôl at ei gilydd mewn aduniad yng Ngŵyl y Faenol.

Yn 2008 ryddhawyd albwm Twll Du Ifan Saer gyda Sbardun yn chwarae'r iwcalili, yr organ geg a'r gitâr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Arlein; Y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 15 Medi 2016.
  2. www.telegraph.co.uk; Coffhad; adalwyd 3 Chwefror 2015
  3. Golwg360; adalwyd 3 Chwefror 2015