System gyhyrol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

System anatomegol rhywogaeth, sy'n ei alluogi i symyd yw'r system gyhyrol. Rheolir y system gyhyrol mewn fertibradau gan y system nerfol, ond mae rhai cyhyrau (megis y cyhyr cardiag) yn gallu bod yn gwbl ymreolaethol.

Cyhyrau[golygu]

Prif erthygl: Cyhyr.

Mae tri math gwahanol o gyhyrau, sef cyhyr ysgerbydol, cyhyr anrhesgog a cyhyr cardiag.

Cyhyr ysgerbydol[golygu]

Prif erthygl: Cyhyr ysgerbydol.

Mae ffibrau cyhyrau ysgerbydol yn amlgnewyllog, lleolir cnewyllyn pob cell ychydig odan y bilen plasma. Caiff y cel ei gyfansoddi o gyfres o myoffibrilau streipïog neu rhesog tebyg i edau. O fewn pob myoffibril, mae ffilamentau protein sydd wedi eu angori gan linell tywyll siap Z. Mae'r ffibr yn strwythr di-dor hir yn debyg i edau. Gelwir y croes doriad lleiaf o gyhyr ysgerbydol yn sarcomere, mae hwn yn uned gweithredol o fewn y cell. Mae'n ymestyn o un llinell Z i'r nesaf. Mae gan pob sarcomere unigol ffilamentau protein, sydd yn myosin trwchus a actin tenau bob yn ail. Mae myosin yn ffurfio canol pob llinell M. Mae fflamentau teneuach actin yn ffurfio patrwm zig zag ar hyd y pwyntiau angori, neu'r linell Z.

Pan fydd cyffroad gan arwaith potensial, mae cyhyrau ysgerbydol yn perfformio cyfangiad ar y cyd, drwy fyrhau pob sarcomere. Y model gorau sydd wedi cale ei grybwyll ar gyfer deallt y cyfangiad hwn yw'r model ffilamentau'n llithro o gyfangiad cyyr. Mae'r ffibrau actin a myosin yn gorgyffwrdd mewn symudiad cyfangol tuag at eu gilydd. Mae gan ffibrau myosin bennau siap pastwm sy'n ymestyn tuag at y ffilamentau actin.

Defnyddir y strwythrau mwy sydd ar hyd y ffilamentau myosin, a elwir yn bennau myosin, i gyflenwi pwytiau cysylltu safleoedd rhwymo ar gyfer y ffilmentau actin. Mae'r pennau myosin yn symyd ar y cyd, gan droi tuag at canol y sarcomere, maen't yn datgysylltu ac yna yn ail-gysylltu gyda safle gweithredol agosaf y ffilament actin. Gelwir hyn yn system yrru o fath clicied dannedd. Mae'r broses hyn yn defnyddio llawer o adenosine triphosphate (ATP).

Daw'r egni ar gyfer gwneud hyn o ATP, sef ffynhonnell egni'r gell. Mae ATP yn rhwymo i'r croes bontydd rhwng y pennau myosin a'r ffilamentau actin. Mae rhyddhad yr egni yn pŵeru troad y pen myosin. Dim ond ychydig o ATP mae'r cyhyrau yn ei storio, felly mae'n rhaid ailgylchu'r moleciwl adenosine diphosphate (ADP) sy'n cael ei ryddhau yn y broses, gan ei droi'n ôl i ATP yn gyflym. Mae meinwe'r cyhyr yn cynnwys cyflenwad wedi ei storio, o gemegyn sy'n ailwefru'n gyflym, creatine phosphate, sy'n cynorthwyo'r cynnyrchiad cychwynnol o ail-droi ADP yn ATP.

Mae angen ïonau calsiwm ar gyfer pob cylchred y sarcomere. Caiff calsiwm ei ryddhau o'r sarcoplasmic reticulum i'r sarcomere pan gaiff ei ysgogi i gyfangu. Mae'r calsiwm yn datguddio'r safleodd rhwymo actin. Pan nad yw'r cyhyrau angen cyfangu mwy, caiff yr ïonau calsiwm au pwmpio o'r sarcomere yn ôl i gael eu storio yn y sarcoplasmic reticulum.

Anatomeg[golygu]

Mae tua 639 o gyhyrau ysgerbydol mewn corff dynol, ame hyn yn cyfansoddi hanner màs ein corff. Dyma rhai o'r prif gyhyrau a'u nodweddion sylfaenol:[1]

Cyhyr Lleolbwynt Mewniad Rhydweli Nerf Arwaith Gwrthwynebydd
croth y goes ffemwr calcaneus rhydweliau sural nerf tibiaidd plygiant gwadnol, plygiant y benglin (minor)key cyhyr blaen tibialis
ôl tibialis tibia, ffibwla Troed rhydweli ôl tibia nerf tibiaidd gwrthdroad y droed, plygiant gwadnol y droed wrth y bigwrn cyhyr blaen tibialis
soleus ffibwla, ffin medial y tibia calcaneus rhydweliau sural nerf tibiaidd plygiant gwadnol cyhyr blaen tibialis
blaen tibialis tibia troed rhydweli blaen tibialis Nerf ffibwlaidd plygiant dorsal a gwrthdroad y droed ffibwlaiddis longus, Gastrocnemius, Soleus, Plantaris, ôl tibialis
longus ffibwla troed ffibwlaidd rhydweli Nerf arwynebol ffibwlaidd plygiant gwadnol, echdroad Cyhyr blaen tibialis
brevis ffibwla troed, echdroad rhydweli peroneal Nerf arwynebol peroneal
cyhyr gluteus maximus ilium, sacrum, gewyn sacrotuberous Gluteal tuberosity y ffemwr rhydweliau gluteal nerf gluteal isaf cylchdro allanol ac ymestyn cymal y clun Iliacus, Psoas mwyaf, Psoas lleiaf
cyhyrau deuben femoris ischium, ffemwr ffibwla rhydweli gluteal isaf, rhydweli popliteal nerf tibiaidd, nerf peroneal cyffredin Plygu a chylchdro'n ochrol cymal y benglin, Ymestyniad cymal y clun Cyhyr cwadriceps
semitendinosus ischium tibia rhydweli gluteal isaf nerf clunol Plygu'r penglin, Ymestyn y glun Cyhyr cwadriceps
semimembranosus ischium tibia profunda femoris, rhydweli gluteal nerf clunol Ymestyniad y glun, plygiant y Benglin Cyhyr cwadriceps
Iliopsoas ilium ffemwr rhydweli medial femoral hirnod, rhydweli iliolumbar femoral nerf, nerf lumbar plygiant y glun Gluteus maximus, adran ôl y morddwyd
cwadriceps femoris cyhyrau rectus femoris a vastus wedi eu cyfuno rhydweli femoral nerf femoral Ymestyniad y Benglin ; plygiant y glun Llinyn y gar

Gweithgaredd cyhyr aerobig ac anaerobig[golygu]

Mae'r corff yn cynhyrchu y rhanfwyaf o'r ATP pan fydd yn gorffwyso, cynhyrchir hyn yn aerobig yn y mitochondria[2] heb gynhyrchu asid lactig nag unrhyw gynnyrch arall sy'n achosi blinder.[3] Yn ystod ymarfer corff, mae'r modd o gynhyrchu ATP yn amrywio, gan ddibynnu ar faint mor heini yw'r ungolyn, yn ogystal a hyd a dwyster yr ymarfer corff. Pan fydd lefelau is o weithgaredd, pan mae'r ymarfer corff yn parhau am gyfnod hir (sawlmunud neu fwy), bydd yr egni ATP yn dal i gael ei gynhyrchu yn aerobig gan gyfuno ocsigen gyda'r carbohydradau a'r brasterau sy'n cael eu storio yn y corff. Pan fydd lefel dwyster uwch o weithgaredd (bydd hyd y gweithgaredd yn lleihau pan fydd y dwyster yn cynyddu), gall cynhyrchiad ATP gael ei newid i ffurf anaerobig, megis defnyddio creatine phosphate a'r system phosphagen, neu glycolysis anaerobig.

Mae cynhyrchiad aerobig ATP yn fio-cemegol yn llawer arafach na chynhyrchiad anaerobig, felly gellir ei ddefnyddio ar pan fydd gweithgaredd hir dwyster isel yn unig, ond nid yw'r broses hyn yn cynhyrchu cemegion sy'n achosi bliner na ellir eu tynnu o'r sarcomere a'r corff yn syth bin, ac felly mae cymhareb llawer mwy o foleciwlau ATP i pob moleciwl braster a carbohydrad. Mae ymarfer aerobic yn galluogi i'r system dosbarthu ocsigen fod yn fwy effeithlon, gan gyflymu metabolaeth aerobic.[3] Mae cynhyrchiad anaerobig ATP yn cynhyrchu ATP yn llawer cynt, ac yn galluogi gweithgaredd sydd bron ar y lefel mwyaf posib o ddwyster, ond mae hefyd yn cynhyrchu llawer o asid lactig sy'n achsi blinder, ac yn ei wneud yn amhosibl i gynnal y lefel yma o weithgaredd am fwy na chwpl o funudau.[3]

Mae'r system phosphagen hefyd yn anaerobic, ac yn galluogi leflelau uchel o weithgaredd, ond ddim ond hyn a hyn o phosphocreatine gaiff ei storio yn y corff ac felly gall ond cyflenwi egni ATP gan ddefnyddio'r broses hyn am hyd at ddeg eiliad. Mae adferiad yn sydyn, a caiff y cyflenwad creatine ei atgynhyrchu o fewn pum munud os bydd y corff yn gorffwys.[3]

Cyhyr Cardiag[golygu]

Prif erthygl: Cyhyr Cardiag.

Mae cyhyrau cardiag yn wahanol i cyhyrau ysgerbydol oherwydd fod ffibrau'r cyhyr yn cstylltu gyda'u gilydd yn ochrol. Ac, yn debyg i cyhyrau anrhesog, nid ydynt yn cael eu rheoli'n wirfoddol. Caiff cyhyrau'r galon eu rholi gan y nod sinws, sydd yn cael ei ddylanwadu gan y system nerfol awtonomig.

Cyhyr Anrhesog[golygu]

Prif erthygl: Cyhyr Anrhesog.

Rheolir cyhyrau anrhesog yn uniongyrchol gan y system nerfol awtonomig. Maen't yn anwirfoddol, sy'n golygu nad ydynt yn gallu cael eu symud yn ymwybodol. Mae cyhyrau sy'n rholi curiad y gaol a'r ysgyfaint hefyd yn gyhyrau anwirfoddol, ond nid ydynt yn gyhyrau anrhesgog.

Rheolaeth cyfangiad cyhyrau[golygu]

Y pwynt lle mae niwron moduro yn cysylltu gyda cyhyr yw cyswllt niwrogyhyrol. Trawsyrrydd niwrol a ddefnyddir mewn cyfangiad cyhyr ysgerbydol yw acetylcholine, a caiff ei ryddhau o derfynfa axon cell y nerf pan fydd potensial arwaith yn cyrraedd y cyswllt mocrosgopaidd a elwir yn synaps. Mae grŵp o negeswyr cemegol yncroesi'r synaps ac yn ysgogi ffurfiad newidiadau trydannol, sy'n cael eu cynhyrchu yng nghelloedd y cyhyr pan mae'r acetylcholine yn rhwymo gyda'r derbynyddion ar ei arwyneb. Caiff calsiwm ei ryddhau o storfa'r cell yn y sarcoplasmic reticulum. Mae ysgogiad o cell y nerf yn achosi un cyfangiad cyhyr byr a elwir yn blwc cyhyr. Os oes problem yn y cyswllt niwrogyhyrol, gellir cyfangiad hirfaith ddigwydd, sef tetanws. Bydd colled gweithriediad yn y cyswllt yn gallu achosi parlys.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) List of major muscles of the human body
  2. ABERCROMBIE M; HICKMAN C.J; JOHNSON M.L, 1973, A Dictionary of Biology, Tud. 179, Middlesex (Lloegr), Baltimore (U.D.A.), Ringwood (Awstralia): Penguin Books
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3  St Paul’s College Stage 2 EXERCISE PHYSIOLOGY Energy Systems Part 5 (ppt).

Ffynonellau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]