Sydney Pollack

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sydney Pollack yn 2006

Roedd Sydney Irwin Pollack (1 Gorffennaf, 1934 – 26 Mai, 2008) yn gyfarwyddwr, cynhyrchydd ac actor ffilmiau Americanaidd. Cafodd ei eni yn Lafayette, Indiana i fewnfudwyr Rwsiaidd-Iddewig. Astudiodd gyda Sanford Meisner yn y Neighborhood Playhouse yn Ninas Efrog Newydd, lle dysgodd actio yn ddiweddarach. Dechreuodd gyfarwyddo rhaglenni teledu yn ystod y 1960au cyn iddo symud ymlaen i gyfarwyddo ffilmiau.

Cyfarwyddodd Pollack dros 21 o ffilmiau a 10 rhaglen deledu ac actiodd mewn dros 30 ffilm neu sioe. Cynhyrchodd dros 44 ffilm. Mae rhai o'i weithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys Jeremiah Johnson (1972), The Way We Were (1973), Three Days of the Condor (1975) a Absence of Malice (1981). Enillodd ei ffilm Out of Africa (1985) Wobr yr Academi iddo am ei waith cyfarwyddo a chynhyrchu. Fe'i enwebwyd am Oscar hefyd am y Cyfarwyddwr Gorau yn They Shoot Horses, Don't They? a Tootsie. Roedd ei ffilmiau mwyaf diweddar yn cynnwys Havana (1990), The Firm (1993), Sabrina (1995) a The Interpreter (2005).


Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.