Sun Tzu
Oddi ar Wicipedia
Delwedd:SunTzu.jpg
Sun Tzu
Awdur o China oedd Sun Tzu (Pinyin: Sūn Zǐ, "Meistr Sun", tua 544—496 CC). Mae'n adnabyddus fel awdur y llyfr Celfyddyd Rhyfel, llyfr eithriadol o ddylanwadol ar gelfyddyd filwrol.
Nid yw haneswyr yn cytuno a oedd Sun Tzu yn gymeriad hanesyddol ai peidio, Yn ôl yr hanesydd Sima Qian, yn ysgrifennu yn yr 2il ganrif CC, ganed Sun Tzu yng ngwladwriaeth Ch'i, a bu'n gadfridog i frenin teyrnas Wu. Mae eraill yn dyddio'r llyfr Celfyddyd Rhyfel i gyfnod ddiweddarach, sef Oes y Rhyfeloedd (403–221 CC), ar sail ei ddisgrifiad o ryfel.

